Annog trigolion i ddweud eu dweud ar gynlluniau llifogydd Dyffryn Teifi

Ymestyn ymgynghoriad llifogydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion hyd at 31 Awst.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Storm-Callum

Y Gwasanaeth Tân yn mynd o dŷ i dŷ yn Llanybydder wedi llifogydd Storm Callum. Llun gan Gary Jones.

Mae ymgynghoriad llifogydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion ar gyfer Dyffryn Teifi wedi cael ei ymestyn hyd at 31 Awst.

Mae’r ymgynghoriad ar-lein, a lansiwyd ar 6 Mehefin, wedi cael ei ymestyn i gynnwys digwyddiadau wyneb yn wyneb er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd siarad â chynrychiolwyr o’r holl asiantaethau partner dan sylw.

Cynhelir dau ddigwyddiad ar gyfer Llandysul/Pont-tyweli a Llanybydder:

  • Dydd Mercher 24 Awst, 10am – 1pm a 3pm – 6pm, y Pwerdy, Llandysul/Pont-tyweli
  • Dydd Iau 25 Awst 10am – 1pm a 3pm – 6pm, Clwb Rygbi Llanybydder

Bydd swyddogion o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol i ateb unrhyw ymholiadau, ynghyd â chynrychiolydd o’r ymgynghorwyr a benodwyd gan y ddau awdurdod.

Yn ôl datganiad gan Gyngor Sir Gâr

Mae pob partner sy’n rhan o hyn am ddeall yr effaith y mae llifogydd yn ei chael ar gymunedau, sut mae’r llifogydd yn digwydd ac asesu gwahanol fesurau llifogydd a fydd yn lleihau’r effaith yn ystod tywydd cynyddol stormus yn y dyfodol.

Bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu rhoi eu hadborth yn bersonol trwy ysgrifennu eu sylwadau a’u rhoi mewn blwch a fydd ar gael yn y lleoliadau. Bydd hyn yn ychwanegol at y sylwadau a’r awgrymiadau a gyflwynwyd yn ystod y broses ymgynghori ar-lein.

Bydd adborth o’r ymgynghoriad a’r digwyddiadau hyn yn bwydo i mewn i’r cam nesaf o waith ac yn ffurfio rhan o unrhyw benderfyniadau y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddylunio a gweithredu unrhyw gynllun i leihau’r risg o lifogydd.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas: “Rydym am gael cymaint o adborth ag y bo modd gan drigolion fel y gallwn, gyda’n gilydd, archwilio ymhellach yr opsiynau sydd ar gael i ni i reoli perygl llifogydd yn y cymunedau hyn. Bydd y digwyddiadau galw heibio yn gyfle i drigolion siarad â swyddogion am y gwahanol opsiynau sydd ar gael a’r camau nesaf.”

Dywedodd Keith Henson, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Rydym yn annog trigolion Llandysul, Pont-tyweli a Llanybydder i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad hwn, naill ai trwy fynd i’r digwyddiadau wyneb yn wyneb yn y lleoliadau a enwyd, neu trwy ddilyn y ddolen ar-lein ar wefan y cyngor. Bydd yr ymatebion o’r ymgynghoriad hwn yn ein galluogi ni a’n partneriaid i archwilio pa opsiynau sydd gennym i reoli’r perygl o lifogydd yn Nyffryn Teifi.”

Os oes gennych unrhyw symptomau sy’n gysylltiedig â COVID, peidiwch â mynd i’r digwyddiadau wyneb yn wyneb, a chyflwynwch eich barn trwy’r ymgynghoriad ar-lein ar wefan y cyngor.