gan
Dylan Lewis
Rhannodd Eirian Lewis o Langybi lun ar y cyfryngau cymdeithasol nos Iau yn dilyn y cyhoeddiad bod y frenhines wedi marw.
Yn y llun gwelir y Frenhines yn siarad ag Eirian wrth iddi arddangos Eirianfa Ebrill ym mhrif gylch y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn 2004.
Dywed Eirian “Y gystadleuaeth oedd yr intebreed champion o wartheg y sioe i gyd. Fi oedd wedi magu yr heffer adre hefyd.”
Cofia Eirian hyd heddiw eiriau’r Frenhines sef “What a beautiful animal” a phwysleisia roedd yn “Anrhydedd cwrdd â’r Frenhines”.