Mae un o feibion y diweddar Hag Harris yn ceisio dod o hyd i hen arwydd siop recordiau Hags, a ddiflannodd o flaen Bianca’s yn Stryd y Bont wythnos ddiwethaf.
Apelia Dan Harris:
“Os ydych chi’n gwybod ble mae e, a fyddech cystal â rhoi gwybod i fi oherwydd fe fyddwn i a fy nheulu yn ei hoffi’n ôl. Diolch ymlaen llaw.”
Bu farw’r Cynghorydd Hag Harris yn sydyn iawn ar y 31ain Mai yn 66 oed. Roedd hyn yn sioc ofnadwy i bawb yn Llanbed a Cheredigion heb son am ei deulu annwyl.
Cofia llawr o bobl o bell ac agos am ei siop recordiau ail law adnabyddus ac mae gweld llun o’r arwydd uchod yn dod ag atgofion melys o gyfnod lled ddiweddar yn hanes tref Llanbed.
Dywedodd Dan,
“Nid oeddem yn gwybod bod yr arwydd yn dal i fodoli nes iddo gael ei osod y tu allan i siop Bianca yr wythnos ddiwethaf. Byddem wedi ei gasglu bryd hynny, ond roeddwn i’n gorfod hunan-ynysu oherwydd Covid a methu cyrraedd Llanbed tan yr wythnos hon.
Dydw i ddim hyd yn oed yn siŵr gan bwy oedd e, ond rwy wedi clywed iddo gael ei roi yno yn y gobaith y bydden ni, fel teulu, yn gallu ei gasglu.
Roedd marwolaeth Hag yn sioc enfawr i fy mrodyr a finnau. Rydyn ni i gyd yn byw mewn gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig a chawsom ein taro’n galed gan y newyddion. Dim ond yr wythnos hon yr ydym i gyd wedi gallu cyrraedd Llanbed i ddechrau rhoi trefn ar bopeth.
Mae’r arwydd yn golygu llawer i ni gan ei fod yn un o’r pethau gweladwy sy’n dal i fodoli o Siop Hags. Roeddwn i a fy mrawd Joe yn gweithio yno pan oedden ni’n ifanc ac mae’r siop yn golygu llawer iawn i ni ac i bobl eraill, sydd erbyn hyn ar wasgar ar draws y byd.”
Cynhelir angladd Hag yn Eglwys San Pedr, Llanbed am 11yb ar y 24ain Mehefin. Bydd yn angladd gyhoeddus a’r trefniadau dan ofal Gwilym Price ei fab a’i ferched. Bydd pawb yn cwrdd ar ôl yr angladd yn y Nags Head a dymuniad y teulu byddai arddangos yr arwydd yno.
Dechreuwyd chwilio am yr arwydd ddydd Llun, ond dim ond ddoe oedd Dan wedi llwyddo i ddod o hyd i bawb a allai wybod unrhyw beth amdano. Ni chysylltwyd â’r heddlu gan na theimlwyd ei fod yn fater brys. Felly os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, gofynnir i chi gysylltu â’r teulu os gwelwch yn dda.