Apelio am gefnogaeth i bobl Wcráin yng Nghwylnos y Maer

Negeseuon sobr gan ddwy wraig o Wcráin yn Llanbed heno.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cynghaliwyd Gwylnos ym Mharc yr Orsedd Llanbed heno a chafwyd anerchiadau teimladwy ac emosiynol o’r Maen Llog gan Y Cynghorydd Selwyn Walters, Maer y Dref ynghyd a dwy wraig sy’n wreiddiol o Wcráin.

Arweiniodd y Cynghorydd Walters yr anerchiadau a gofynnodd am funud o dawelwch er mwyn i bawb feddwl ac ystyried y digwyddiadau diweddar yn Wcráin.

Y cyntaf i siarad oedd Nataliya Roach o Gwmann sy’n dod yn wreiddiol o Wcráin.  Apeliodd yn daer am gefnogaeth i ddanfon cymorth dyngarol i Wcráin.

Yna siaradodd Svetlana Lilley a disgrifiodd ddarlun real o’r erchyllderau dyddiol yn ei mamwlad.  Dywedodd nad oedd y cyfryngau yn dangos popeth i ni a bod y sefyllfa llawer iawn yn waeth na’r hyn a welwn ar y newyddion.  Gofynnodd i bob un ohonom a oedd yn bresennol i geisio dylanwadu ar ein gwleidyddion er mwyn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal y rhyfel, a chynnal digwyddiadau er mwyn codi ymwybyddiaeth a chodi arian tuag at yr achos.

Roedd y dyrfa a ddaeth ynghyd yn llawn cydymdeimlad, a daeth y Cynghorydd Walters a’r wylnos i ben drwy ddatgan y bydd arian Apêl y Maer yn mynd tuag at elusen Nataliya i godi arian tuag at gymorth i bobl Wcráin.

 

Ymhlith y digwyddiadau eraill yn lleol i godi arian tuag at Wcráin bydd Bore Coffi yn Neuadd yr Eglwys yn Llanbed ar fore Sadwrn, Mawrth 19eg rhwng 10 a 12 o’r gloch a chynhelir Taith Gerdded o gwmpas ardal Parc-y-rhos ar fore Sul, Mawrth 20fed gan ddechrau o Gapel Bethel Parc-y-rhos am 10 o’r gloch.  Cofiwch gefnogi.