Apelio am gefnogaeth i Sioe Llanbed wedi dwy flynedd o fwlch

Cyhoeddwyd rhaglen Sioe Amaethyddol Llanbed yr wythnos hon.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
196030CA-EF5E-4370-B304

Mae Pwyllgor Sioe Amaethyddol Llanbed yn falch cyhoeddi bod y sioe yn cael ei chynnal ar Orffennaf 2il eleni ac yn erfyn am gefnogaeth gan ei bod yn heriol i gael pawb nôl i gystadlu.

Mae yna gystadlaethau newydd mewn sawl adran, felly y garddwyr blodau, ffrwythau a llysiau cofiwch roi cynnig arni.  Hefyd beth am geisio gydag wyau ieir a hwyaid?

Dyma’r tro cyntaf i’r sioe gael ei chynnal ers cyn Covid, ac fe’i lleolir yng Nghaeau Pontfaen fel arfer sydd ond tafliad carreg o ganol y dref.

Apeliwyd ar facebook heddiw y dylid danfon ceisiadau’r ceffylau mewn i Daniel Morgan, Penparc, Silian, SA48 8NU erbyn 20fed o Fehefin.

Gyda’r hwyr cynhelir It’s a Knock Out yn y brif gylch, felly trefnwch eich timoedd er mwyn ymuno â’r hwyl a chael cyfle i ennill gwobrau ariannol.

Gellir cysylltu ag Iwan Williams yr ysgrifennydd ar 422370 a Daniel Morgan y cadeirydd ar 493338.  O ran ymholiadau’r babell, cysylltwch â Gwen Jones 422655 neu Delyth Jones 422593.  Mae rhaglenni’r sioe ar gael yn siop W D Lewis a’i fab, J H Roberts a’i feibion, Popty Mark Lane a’r swyddogion yn ogystal ag ar wefan y Sioe.