gan
Ifan Meredith
Mae’r Heddlu yn ymwybodol bod grŵp o ddynion wedi mynd ag allweddi’r fan tra bod y gyrrwr yn dosbarthu ar Heol y Bryn, Llanbed.
Yn sgil hyn, maent yn apelio am fwy o wybodaeth ac yn apelio i’r allweddi cael eu dychwelyd i Orsaf Heddlu Llanbedr Pont Steffan gan fod y digwyddiad yn achosi anawsterau i’r gyrrwr a’i gyd-weithwyr.
“Am tua 4.35yh ar Ddydd Sul, 28ain o Awst, wrth ddosbarthu yn Heol y Bryn, Llanbed, collodd gyrrwr dosbarthu Morrisons ei allweddi i’r fan.”
“Mae’r grŵp wedi cymryd yr allweddi ac wedi gadael yr ardal” – Llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys.
Os oes gwybodaeth gennych a ellir fod yn ddefnyddiol i ymchwiliad yr Heddlu, gallwch weld manylion cyswllt yma.