Yn arbennig am gicio at y pyst ond yn ofnadwy am ddawnsio

Osian Jones, Cwmann sy’n ateb cwestiynau Cadwyn Cyfrinachau Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc yn y siopau lleol erbyn hyn, ac yn rhan allweddol ohono fel bob mis mae’r golofn ‘Cadwyn y Cyfrinachau’.

Osian Jones o Gwmann sy’n ateb y cwestiynau y tro hwn ac mae e’n chwaraewr allweddol gyda thîm cyntaf Clwb Rygbi Llanbed.

Beth yw dy arbenigedd?

Cicio at y pyst rygbi.

Pwy yw dy arwyr?

Mamgus a Dadcus y ddwy ochr.

Taset ti’n fisged, pa fath fydde ti a pham?

Ginger Nut, gan fod gwallt sinsir fel dad da fi’n blentyn.

Beth yw dy hoff arogl?

Coginio Mam yn enwedig cinio Dydd Sul,

Oes yna rywbeth na elli di ei wneud y byddet ti’n hoffi ei gyflawni’n dda?

Dawnsio, rydw i’n ofnadwy.

Blas yn unig yw’r ymatebion uchod.  Os am ddarllen mwy, prynwch gopi cyfredol o Bapur Bro Clonc.  Gallwch danysgrifio’n ddigidol hyd yn oed am £10 y flwyddyn drwy ymweld â gwefan Clonc.