Yr Archdderwydd yn gorfod codi ei adlen ei hunan!

Dim breintiau arbennig i Myrddin ap Dafydd wedi iddo gyrraedd Tregaron

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Dyn ymarferol iawn yw Myrddin ap Dafydd yr Archdderwydd.  Gwelwyd ef heddiw yn codi adlen y garafan ar ei ben ei hunan ar faes carafanau Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron prynhawn ma.

Dywedodd ei fod yn cael gosod y garafan a chodi’r adlen tra byddai aelodau eraill y teulu yn gofalu am y stondin lyfrau ar y maes.

Wrth i mi synnu bod safle ei garafan mor bell o’r tai bach a’r cawodydd atebodd gyda thafod yn y boch fod gan gyfleusterau’r archdderwydd dapiau aur!

Hon yw’r ail Eisteddfod Genedlaethol iddo fel archdderwydd ac esboniodd fod wythnos brysur o’i flaen gyda 24 achlysur swyddogol.

Canmolodd bobl leol am addurno’r pentrefi a’r ffyrdd i Dregaron ac edrychai ymlaen i ddiolch i bawb am eu gwaith a diolch hefyd i’r rhai a gaiff eu hanrhydeddu yn ystod yr wythnos.

Felly i’r rhai ohonoch a dybiai y byddai’r archdderwydd yn cael aros mewn gwesty moethus fel y Talbot a niferoedd o bobl yn gweini arno o bob cyfeiriad, dyma ddatgelu’r gwirionedd tu ôl y person mwyaf allweddol yn yr wythnos fawr, mae’n lletya ymhlith gweddill yr eisteddfodwyr mewn cae ar gyrion Tregaron.