Arddangosfa Celf a Chrefft Llanfair Clydogau, 18fed hyd 21ain Awst

Mis Awst o gelf a chrefft yng Ngheredigion

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
CE097FC8-C011-4F39-A78B

Ali Scott

9306E5C7-9DD7-4F4A-9F81

Wynne Melville Jones

CD92616D-AE94-4459-B0F8

Julia Elliot

53741BE7-FAD6-4BA7-A744

Ian Rylatt – llestri te sy’n cyd-gloi

61963CFD-6E87-4581-826D

Ogwyn Davies – cyfrol Ceri Thomas

CE097FC8-C011-4F39-A78B

Ali Scott

58EFB8C9-21C9-49E8-BE51

Colin Kellam

0EC87F63-FAF9-4EE4-BF32

Arddangosfa Celf Neuadd Pentref Llanfair Clydogau

136ECDAE-2808-4B02-8166

Ogwyn Davies – Capel Soar y Mynydd

0FE08CBC-4C4C-467A-B9E1

Aled Jenkins – clociau llechen

A626B23E-B467-43E8-9DA8

Eglwys St Caron – George Noakes

2D55E784-C6A2-4B19-B9E3

Eglwys St Caron

72BAF53B-F506-4D9D-B59D

Aerwen Griffiths – Afon Brenig, Tregaron

D1F6FEBE-90FA-49FA-9ABF

Eglwys St Caron – W Ambrose Bebb ac Albert Bebb

619B0092-A666-4615-93E9

Eglwys St Caron – Moc Morgan

F4086574-1BF1-42BA-A18F

Philip Huckin

Dewch i ryfeddu at ddoniau celf Aerwen Griffiths, Cynthia Westney, Sarah Jones, Dodie a Jamie Herschel, Sue Powell, Sue Clow, Ali Scott a Claire Parsons yn Llanfair Clydogau.

Cynhelir arddangosfa o’u gwaith yn Neuadd Pentref Llanfair Clydogau rhwng dydd Iau 18fed a dydd Sul 21ain Awst. Bydd y neuadd ar agor rhwng 11.00 y bore a 6.00 yr hwyr (11.00 hyd 8.00 dydd Gwener) i fwynhau gwahanol gyfryngau yn gerameg, ffelt, ysgythriadau, printiau leino, colograffiau, acrylig, dyfrlliw, tecstilau a media cymysg. Cyfle dros baned o de neu goffi a chacen i gyfarfod gyda rhai o’r arddangoswyr i drafod a phrynu eu gwaith.

Mi wnaeth sawl un ohonynt arddangos eu gwaith yn Nhregaron yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion. Gobeithio i chi ymweld â’r Lle Celf ar y Maes a hefyd yr arddangosfa ardderchog gynhaliwyd rhwng 28ain Gorffennaf a 7fed Awst yn Neuadd Goffa Tregaron. Yno gwelwyd gwaith Aerwen Griffiths, Ali Scott a Sarah Jones fydd hefyd yn Arddangosfa Celf Neuadd Pentref Llanfair Clydogau, sy’n agor dydd Iau 18fed Awst am 11.00 y bore.

Y mae dal cyfle i ymweld â’r arddangosfa gelf yng Nghanolfan Rhiannon, Tregaron (www.rhiannon.co.uk). Cewch yno weithiau celf Philip Huckin, Julia Elliot, Colin Kellam ac Wynne Melville Jones ymhlith arlunwyr eraill. Yno hefyd mae rhai enghreifftiau o ddawn y diweddar Ogwyn Davies a chyfrol sydd newydd ei chyhoedd gan Ceri Thomas, ‘Bywyd a Gwaith Ogwyn Davies A Life in Art’. Os ydych yn Aberystwyth, mae cyfle i weld arddangosfa o waith Ogwyn Davies yng Nghanolfan y Celfyddydau tan ddydd Llun 12fed Medi.

Bu cyfle hefyd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol i weld yr arddangosfa yn Eglwys St. Caron, Tregaron a’r ffenestri lliw hardd yr eglwys hynafol sy’n dyddio o tua 1500. Cafwyd croeso hyfryd yno a mwynhau’r arddangosfa o’r enwogion sydd â chysylltiadau ag ardal Tregaron. Defnyddiwyd siliau’r ffenestri i dynnu sylw at Moc Morgan (Pontrhydfendigaid), W. Ambrose Bebb a’i frawd Albert Bebb (Camer Fawr, Tregaron) a Cassie Davies (Blaencaron, Tregaron) ymhlith eraill. Dysgais lawer amdanynt gan gynnwys am George Noakes, Archesgob Cymru 1987-1991, ganed ym mhentref Bwlchllan ger Tregaron.

Mwynhewch y lluniau o’r arddangosfeydd yn Neuadd Goffa Tregaron, Canolfan Rhiannon ac yn Eglwys St. Caron.

Pob dymuniad da i’r Arddangosfa Celf a Chrefft yn Neuadd Pentref Llanfair Clydogau, 18fed hyd 21ain Awst.