Athrawes ysgol gynradd yn rhoi cefnogaeth i Apêl Cemo Bronglais

Rhian o Lanwnnen yn codi arian wedi salwch.

Bev Thomas
gan Bev Thomas

Mae athrawes ysgol gynradd Rhian England wedi rhoi ei chefnogaeth i Apêl Cemo Bronglais ar ôl cael triniaeth ei hun yn uned ddydd cemotherapi Ysbyty Bronglais.

Cafodd Rhian, sy’n 46 oed ac yn fam i ddau o blant, ddiagnosis o ganser y fron yr haf diwethaf ac aeth ymlaen i gael tri mis o gemotherapi, ac yna lwmpectomi a radiotherapi. Mae hi’n dal i dderbyn triniaeth yn yr uned.

“Rwyf mor ddiolchgar i staff yr uned ddydd,” dywedodd Rhian. “Er eu bod nhw’n brysur, maen nhw’n rhoi amser i bob claf. Mae eu gwybodaeth yn aruthrol ac maen nhw’n esbonio popeth ac yn ateb eich holl gwestiynau.”

“Rwy’n gwybod y bydd uned ddydd cemotherapi pwrpasol newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr a dyna pam yr wyf yn cefnogi’r Apêl. Bydd yn braf i gleifion gael mwy o breifatrwydd mewn uned newydd a bydd cael rhywle ag awyrgylch mwy cyfforddus yn helpu gyda lles.”

Dywedodd Rhian, sy’n byw ger Llanwnnen gyda’i phartner Dai, ffermwr, a’u plant, Lisa, sy’n saith ac Alaw sy’n chwe blwydd oed, ei bod wedi ei difrodi gan y diagnosis.

“Rwy’n cofio meddwl ‘pam fi, eto’, oherwydd cefais fy anafu’n ddifrifol mewn damwain car a gymerodd fywyd fy nhad. Roeddwn yn yr ysbyty gyda braich dde, penelin a phen-glin chwith wedi torri a sternwm wedi hollti. Roeddwn i wedyn mewn cadair olwyn gartref am dri mis, tra bod Lisa yn fabi.”

“Ond ar ôl y diagnosis o ganser, roedd fy nheulu a ffrindiau yn wych, ynghyd â staff yr ysbyty ac roedd hynny’n help enfawr.”

Os hoffech chi, fel Rhian, gefnogi’r Apêl, gallwch gyfrannu neu sefydlu tudalen codi arian yn https://hyweldda.enthuse.com/cf/bronglais-chemo-appeal

I gael rhagor o fanylion am yr Apêl, sydd â’r nod o godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen er mwyn i’r gwaith adeiladu ddechrau ar uned ddydd newydd, bwrpasol, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk