Bardd y Gadair yn cyfrannu ei enillion i’r Banc Bwyd

Aled Evans o Langynnwr a enillodd y gadair yn Eisteddfod Llanbed heddiw.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
B27CA268-BEE1-4785-AF55

Llun: @SteddfodLlanbed

Wrth gyflwyno’r bardd buddugol yn ystod Seremoni’r Cadeirio yn Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant heddiw, cyhoeddodd Dorian Jones yr ysgrifennydd mai dymuniad Aled Evans yw cyfrannu ei enillion ariannol i’r Banc Bwyd.

Y wobr heddiw oedd Cadair Fechan a £200.  Y gadair a luniwyd gan Alec Page, Llanbed yn rhoddedig gan Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan Gwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.

Gofynnwyd am gerdd gaeth neu ddilyniant o gerddi caeth hyd at 80 llinell ar y testun “Baner”.

Roedd 6 ymgeisydd i’r gadair eleni.  Y beirniad oedd y Prifardd Ceri Wyn Jones a dywedodd fod y safon eleni yn eitha da.

Ffugenw’r bardd buddugol oedd “Dic” ac roedd y beirniad yn dweud ei fod yn llawn haeddu’r gadair.

Enillodd Aled y gadair yn Eisteddfod Llanbed yn 2011 a’r Fedal Ryddiaith yn 2014.  Wyneb cyfarwydd yn Eisteddfod Llanbed felly ac enillydd caredig iawn yn cefnogi elusen a chymaint o alw ar ei hadnoddau yn y gymuned heddiw.

Gellir gweld fideo byr o’r seremoni ar flog byw Clonc360, yn ogystal â lluniau a chanlyniadau’r dydd.