Blog Byw Eisteddfod CFfI Sir Gâr

Y diweddaraf o Gaerfyrddin

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Eisteddfod CFfI Sir Gâr heddiw.  Gallwch weld y diweddaraf yma.

9F03C0D3-9252-4B00-9D43

Enillodd Owain Davies o Glwb Llanllwni gystadleuaeth Stand Up yn yr eisteddfod wythnos ddiwethaf.  Llongyfarchiadau mawr iddo.

19:59

Mae Neuadd San Pedr bellach yn orlawn a’r gynulleidfa’n mwynhau anerchiad y llywydd Meirion Owen, yn ogystal a chystadlaethau poblogaidd yr Unawd Sioe Gerdd a’r deuawd/ dreiawd doniol.

19:07

A’r Prif lenor yw Sioned Bowen CFFI Llanllwni.

19:01

Prifardd yr Eisteddfod yw Carwen Richards CFfI Dyfryn Cothi.  Llun gan Sulwen Richards.

18:33

Seremoni’r Cadeirio a Choroni wedi dechrau dan arweiniad Llywydd y Sir Mr. Elfyn Davies.

16:59

Trydydd i Cffi Llanllwni yn y Meimio i Gerddoriaeth !

16:21

Cipiwyd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth i aelodau 28 neu iau gan Sulwen Richards o Ddyffryn Cothi. Y dasg oedd i ysgrifennu erthygl cylchgrawn yn cyfweld ag aelod CFfI sydd wedi datblygu busnes ei hun.

16:13

Sion Davies, Cffi Llanllwni yn cipio’r ail wobr yn y ffotograffiaeth dan 28 !

16:12

Meim cffi Llanllwni 

16:06

Enillydd y llefaru o dan 16 oed yw Trystan Evans o Ddyffryn Cothi!

15:50

Meim Clwb Cwmann.  Llun: Dafydd Lewis.