
Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, ymlaen i Ddinbych nawr i gystadlu ar lefel genedlaethol.
Yn ystod yr wythnos hon, bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi. Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?

Adran Llanbed yn cystadlu yng nghystadleuaeth Parti Deusain blynyddoedd 9 ac iau i adrannau.

Dyma Adran Llambed ar y llwyfan.

Bore da o Eisteddfod yr Urdd ar ddiwrnod 3.
Dyma ni ym Mhafiliwn Gwyrdd yn barod i gystadleuaeth Grŵp Llefaru Bl 6 ac Iau i Adrannau.
Pob lwc i Adran Llambed.
Unawd Cerdd Dant Bl. 5 a 6 – Efan Evans, Ysgol Talgarreg 3ydd.


Ciw hir, hiiir i fynd mewn i Pafiliwn Gwyn i wrando ar gystadleuaeth y Côr!!!

Y Seremoni



Rhagor o luniau o’r Celf a Chrefft.
Llongyfarchiadau i Ysgol Y Dderi am ddod yn ail yng nghystadleuaeth y Parti Unsain i ysgolion dros 50 o blant.

Elin yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cogurdd blynyddoedd 7, 8 a 9 ym mhabell Cogurdd y prynhawn yma.

Ysgol Bro Teifi, Llandysul yn cystadlu yn y Grŵp Llefaru.
Gwobr yn y gystadleuaeth yma yw Tlws Coffa Sulwen Lloyd Thomas, Cellan.