Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, ymlaen i Ddinbych nawr i gystadlu ar lefel genedlaethol.
Yn ystod yr wythnos hon, bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi. Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?
Bleidd Cutler, Ysgol Bro Pedr yn cystadlu yn Llefaru i ddysgwyr blwyddyn 3 a 4.
Llongyfarchiadau i Gwennan Owen, Llanllwni am ddod yn ail yn yr Unawd Telyn blwyddyn 6 ac iau.
Llongyfarchiadau i Nanw a Gwennan. ??
Canlyniad
Unawd Telyn Bl, 6 ac Iau – Gwennan Lloyd Owen o Llanllwni ac Ysgol Bro Teifi yn 2il.
Llongyfarchiadau i Nanw Griffiths-Jones, Cwrtnewydd a disgybl yn Ysgol Gynradd Aberaeron ar ddod yn 3ydd yn Llefaru Bl. 2 ac Iau.
Y Llwyfan canlyniadau.
Aros i glywed canlyniad Unawd Telyn Bl. 6 ac Iau.
Pafiliwn Celf a Chrefft
Dyma rai o buddugwyr Celf a Chrefft yr ardal. Da iawn chi gyd.
Os ydych yn ymweld â’r Eisteddfod – cofiwch ymweld â’r gwaith safonol yma.
Oes rhywun yn adnabod y person yma?
Perfformiad da iawn gyda Ysgol Dyffryn Cledlyn.
Pafiliwn Gwyn – Cystadleuaeth Dawns Werin Bl. 4 ac Iau yn barod. Pob lwc i Ysgol Dyffryn Cledlyn fydd yn cystadlu wedyn.