Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, ymlaen i Ddinbych nawr i gystadlu ar lefel genedlaethol.
Yn ystod yr wythnos hon, bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi. Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?
Parti Deusain Ysgol Bro Teifi yn ymarfer ar stondin Drindod Dewi Sant. Pob lwc.
A’r cyntaf i gystadlu o ardal Clonc yw Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni ac Ysgol Bro Teifi yn yr Unawd blynyddoedd 5 a 6 yn y Pafiliwn Coch.
Dechrau ar ddiwrnod arall o gystadlu ar faes yr Eisteddfod.
Bu Ysgol Y Dderi yn cystadlu yn y Ddawns Werin Blwyddyn 6 ac iau bore yma hefyd.
Llongyfarchiadau ENFAWR i un o disgyblion talentog Ysgol Bro Pedr sef Catrin Jones Bl. 13 am ennill ysgoloriaeth Artist Ifanc Bl. 10 ac o dan 25 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Ninbych. Diolch i Mrs Wendy Thomas am ei chefnogaeth ac ysbrydoliaeth ar hyd y daith. Rydym i gyd yn falch iawn ohonot Catrin – mae dyfodol disglair o dy flaen!
????
Llefaru Bl. 3 a 4 – Celyn Davies, Ysgol Bro Teifi 3ydd.
Côr Ysgol Dyffryn Cledlyn wedi cystadlu yn y gystadleuaeth y côr. Perfformiad da iawn.
Ciw mawr i fynd mewn i Pafiliwn Gwyn i wrando ar y Corau. Pob lwc i Ysgol Dyffryn Cledlyn.
Dyma Nanw gyda’i medalau. Diwrnod i gofio i ti.
Canlyniad Unawd Cerdd Dant blwyddyn 2 ac iau- 3ydd Nanw Griffiths-Jones