Blog Byw : Eisteddfod yr Urdd Clonc360

Diweddariadau o Ddinbych yn ystod dechrau wythnos Eisteddfod yr Urdd.

gan Ifan Meredith
260358231_6474590485948244Facebook - Urdd Ceredigion

Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, ymlaen i Ddinbych nawr i gystadlu ar lefel genedlaethol.

Yn ystod yr wythnos hon, bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi.  Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?

15:10

Rhagor o luniau o’r Celf a Chrefft. 

14:58

Llongyfarchiadau i Ysgol Y Dderi am ddod yn ail yng nghystadleuaeth y Parti Unsain i ysgolion dros 50 o blant. 

14:52

B26E8746-6424-4CE4-A339

Elin yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cogurdd blynyddoedd 7, 8 a 9 ym mhabell Cogurdd y prynhawn yma. 

14:42

160B311C-E836-4B21-B59B

Ysgol Bro Teifi, Llandysul yn cystadlu yn y Grŵp Llefaru. 

Gwobr yn y gystadleuaeth yma yw Tlws Coffa Sulwen Lloyd Thomas, Cellan. 

14:40

406A3EB7-357A-453C-BE48

Gwennan Owen gyda’i thlws. 

12:48

53A403B6-2411-43C4-9A82s4c.urdd.cymru

Ysgol Y Dderi yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Parti Unsain i ysgolion dros 50 o blant yn y Pafiliwn Gwyrdd. 

12:26

Llongyfarchiadau mawr i Gwennan Owen, Llanllwni a disgybl ym Mro Teifi ar ennill Unawd Bl. 5 a 6. ??

11:30

Pob lwc i Elin fydd yn cystadlu yn y Cogurdd nes mlan heddi. 

11:03

Parti Deusain Ysgol Bro Teifi yn ymarfer ar stondin Drindod Dewi Sant. Pob lwc. 

09:14

Screenshot-2022-05-31-at-09.06.22s4c.urdd.cymru

A’r cyntaf i gystadlu o ardal Clonc yw Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni ac Ysgol Bro Teifi yn yr Unawd blynyddoedd 5 a 6 yn y Pafiliwn Coch.