Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, ymlaen i Ddinbych nawr i gystadlu ar lefel genedlaethol.
Yn ystod yr wythnos hon, bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi. Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?
Côr Ysgol Dyffryn Cledlyn wedi cystadlu yn y gystadleuaeth y côr. Perfformiad da iawn.
Ciw mawr i fynd mewn i Pafiliwn Gwyn i wrando ar y Corau. Pob lwc i Ysgol Dyffryn Cledlyn.
Dyma Nanw gyda’i medalau. Diwrnod i gofio i ti.
Canlyniad Unawd Cerdd Dant blwyddyn 2 ac iau- 3ydd Nanw Griffiths-Jones
Thea, Ysgol Bro Pedr wedi cystadlu yn Llefaru Bl. 2 ac Iau (D).
Unawd Bl 3 a 4 – Gwenlli Thomas, Ysgol Bro Teifi 2il.
Bleidd Cutler, Ysgol Bro Pedr yn cystadlu yn Llefaru i ddysgwyr blwyddyn 3 a 4.
Llongyfarchiadau i Gwennan Owen, Llanllwni am ddod yn ail yn yr Unawd Telyn blwyddyn 6 ac iau.
Llongyfarchiadau i Nanw a Gwennan. ??
Canlyniad
Unawd Telyn Bl, 6 ac Iau – Gwennan Lloyd Owen o Llanllwni ac Ysgol Bro Teifi yn 2il.