Blog Byw Hystings Is-Etholiad Ward Llanbed

Tri ymgeisydd yn ymateb i gwestiynau bobl leol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

20:12

Ann Bowen Morgan yn pwysleisio gwerth yr iaith Gymraeg yn ei chlo.

20:07

Sandra Jervis yn rhedeg busnes yn Llanbed ac yn barod i fentro i rol cynghorydd sir.

20:05

Dinah Mulholland yn pwysleisio pwysigrwydd gwella trafnidiaeth gyhoeddus a gwarchod hen adeiladau’r dref.

20:03

Ifan Meredith yn gwahodd yr ymgeiswyr i grynhoi eu dadleuon.

19:53

Y tri ymgeisydd yn ateb y cwestiynau heno yw Ann Bowen Morgan, Sandra Jervis a Dinah Mulholland.  Yr ymgeisydd arall yw Lee Cowles.

19:48

Trefnir yr hystings heno gan Bapur Bro Clonc a gwefan Clonc360.

19:46

Darlledir yr Hystings heno ar facebook live Clonc360.

19:45

Cwestiynau o’r llawr o gyfleusterau i blant, cydweithio â’r brifysgol a rhoi mwy o hawliau i’r cyngor tref.

19:44

Ifan Meredith yn cadeirio’r drafodaeth heno yn Neuadd Lloyd Thomas Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Llanbed.

James Cook
James Cook

Diolch am drefnu

Mae’r sylwadau wedi cau.

19:40