Bore Coffi MacMillan

Codi arian yng Ngorsgoch.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
IMG_20221001_113503
IMG_20221001_113552
IMG_20221001_113709

Daeth trigolion yr ardal ynghyd i Neuadd yr Hafod i yfed te a choffi a bwyta cacs at achos da.

Cafwyd llond ford o ddanteithion ffein a digon o baneidiau i bawb. Codwyd £463 ar y dydd tuag at MacMillan ac mae rhoddion yn dal i gyrraedd.

Diolch o galon i bawb am gefnogi achos mor werthfawr.