Bowlwraig o Lanbed yn arwain y ffordd i dîm Cymru.

Cyhoeddi Capten Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad ym Mirmingham.

gan Ifan Meredith

Wrth i Gemau’r Gymanwlad ym Mirmingham ddechrau ymhen pythefnos, mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi mai Anwen Butten o Gellan a fydd Capten Tîm Cymru.

Dechreuodd chwarae bowls yn 13 mlwydd oed ac mae ei diddordeb wedi datblygu ac mae’n un o chwaraewyr mwyaf profiadol Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad wrth iddi gynrychioli ei gwlad ym mhob un o Gemau Gymanwlad ers 2002.  Birmingham bydd yn dynodi ei chweched tro yn chwarae dros ei gwlad ar y lefel yma.

Mae bowlio yn rhan annatod o’r teulu gyda’i rhieni a’i phlant chwarae’r gamp. Cafodd y teulu’r fraint o gario Baton y Frenhines wrth iddo wneud ei ffordd drwy Geredigion wythnos diwethaf.

Er mwyn dathlu’r llwyddiant o fod yn Gapten ar Dîm Cymru, ymwelodd Anwen ag Ysgol Gynradd Dolbadarn, Gwynedd lle bu Anwen yn siarad â disgyblion am ei phrofiadau o gystadlu ar lefel rhyngwladol. Saif yr ysgol hon ar droed Yr Wyddfa a dyma le daw ysbrydoliaeth i ymgyrch ‘uwchgynhadledd ein dyheadau’ (the summit of our aspirations) Tîm Cymru ar gyfer y gemau.

‘Mae’n anrhydedd i gael fy ngofyn i fod yn Gapten ar Dîm Cymru ym Mirmingham yn ystod yr Haf. Fel athletwr, rydych yn paratoi eich hunain i gystadlu ac yn canolbwyntio ar eich perfformiad ond, mewn gwirionedd, mae’r amgylchedd a’r tîm o’ch cwmpas yn gwneud gwahaniaeth mawr.’

Gobeithia Anwen ddefnyddio ei phrofiad i ‘gefnogi’r athletwyr hynny sydd yn dod i’r gemau am y tro cyntaf, ond hefyd ysbrydoli’r tîm cyfan.’

‘Mae Anwen yn esiampl berffaith o weledigaeth Tîm Cymru, gyda’i phrofiad a’i dyheadau’

Chris Jenkins, Prif Swyddog Weithredol Gemau Gymanwlad Cymru.