Bowlwyr Llanbed ar y ffordd i Landrindod!

Cynhelir ffeinalau Cymru yn Llandrindod dros y pythefnos nesa gyda sawl un o Lanbed yn cymryd rhan

gan Ifan Meredith

I ddechrau, am 09:30 mi fydd Alis Butten yn chwarae yng nghystadleuaeth y senglau i ferched dan 25. Hefyd fory, am 09:30, mae 4 yn chwarae yng nghystadleuaeth pedwarawd i ddynion hŷn. Am 13:30, mi fydd Harri Butten yn chwarae yng nghystadleuaeth y senglau i fechgyn dan 25.

Yna, dydd Sadwrn, mi fydd merched yn chwarae yng nghystadleuaeth y rhinc ddwbl.

Mi fydd gêm derfynol y ‘Super 10’ yn cael ei chwarae ddydd Sul yn ogystal â gêm derfynol senglau menywod 4 pêl lle bydd Melanie Thomas yn chwarae am 09:30.

Am 09:30 fore Llun, mi fydd Tim a Harri Butten yn chwarae yng nghystadleuaeth y parau dynion ac Andrew Wilson a Henry Jones yn chwarae yng nghystadleuaeth y parau dynion hŷn.

Ar ddydd Mawrth, mi fydd y tripledi merched yn dechrau am 09:30 a Melanie Thomas yn chwarae yng nghystadleuaeth senglau 2 bêl i ferched am 17:00.

Dydd Mercher, mae pedwarawd y merched yn chwarae am 09:30 ac yna Alis Butten yn rhan o barau merched dan 25 am 17:30.

I gloi, mae diwrnod gemau terfynol y merched ar ddydd Iau, y 18fed o Awst.
Pob lwc i bawb sy’n cystadlu dros y pythefnos nesaf.