Brido Corgi yn Llangybi ar gyfer ffilm Nadolig

Caryl Griffiths a werthodd Bonbon sy’n rhan o ffilm Hallmark erbyn hyn.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
308118661_1644471159287351

Bonbon

87C07E77-E643-45A3-A0B1

Caryl gyda mam Bonbon sef Maggie.

Mae Caryl Griffiths o Langybi wedi bridio ci Corgi Sir Benfro tri lliw o’r enw Bonbon y llynedd a’i werthu i gwpl yn Brixton, Llundain. Mae Bonbon bellach yn cael sylw mewn ffilm Nadolig gan Hallmark (Cwmni Americanaidd) ond dylai fod yn enwog ar draws y byd gan gynnwys Gwledydd Prydain. Mae’n dipyn o gamp i rywun lleol i fagu ci bach sydd wedi gwneud mor dda.

Dywedodd Caryl “Yn rhan o’r ffilm hon bydd Bonbon, ci Corgi Tri Lliw yr wyf wedi’i fridio (mab i Maggie) a’i werthu i Manisha Angdembe y llynedd! Ni allaf aros i weld y ffilm hon. Mae Bonbon yn y broses o gael ei ffilmio allan yn Iwerddon ar hyn o bryd. Rwy mor falch fel bridiwr.”

Enw’r ffilm yw “A Royal Corgi Christmas” lle mae Tywysog anfoddog y Goron sef Edmond, yn dychwelyd adref ychydig cyn y Nadolig gan ragweld y byddai’n cael ei enwi’n olynydd i’r orsedd. Cyflwyna anrheg Nadolig i’w fam sef Corgi tanbaid y mae angen hyfforddiant difrifol arno. Ar ôl sawl trychineb cwn, mae Edmond yn troi at Cecily, arbenigwraig ar ymddygiad cŵn o America am help – ond er mawr syndod iddo, mae Cecily yn mynnu ei fod yn cymryd rhan weithredol yn y sesiynau hyfforddi cŵn bob dydd. Mae sbarcs yn hedfan rhyngddyn nhw wrth i’r pâr gydweithio i gael y Corgi yn barod i’w gyflwyno yn y Ddawns Nadolig. Yn union fel mae’r ci bach gwerthfawr yn dal eu calonnau, maen nhw’n darganfod y gall cariad dyfu yn y mannau mwyaf annisgwyl, gan eu harwain i gwestiynu beth maen nhw’n moyn mewn gwirionedd.

Edrychwn ymlaen i weld ci bach a fridiwyd yn lleol mewn ffilm Amercanaidd boblogaidd y Nadolig hwn.