Y bugail o Gellan mewn ffilm ddogfen a enillodd yn Efrog Newydd

Roedd Wilf wir yn cyffwrdd â’r dyhead hwnnw i ddatgysylltu

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
F9811D82-D3C3-451B-BD48

Dwy chwaer leol yn teithio ar yr un bws â Wilf. Llun gan Sian Lloyd.

Neithiwr dangoswyd ffilm ddogfen ar BBC 2 yn dilyn diwrnod ym mywyd bugail o Gellan a enillodd glod rhyngwladol mewn gŵyl ffilmiau Americanaidd.

Enillodd Heart Valley y Rhaglen Ddogfen Fer Orau yng Ngŵyl Ffilm Tribeca 2022 yn Efrog Newydd ac mae ar gael i’w gwylio ar iplayer erbyn hyn.

Mae Heart Valley yn dilyn diwrnod ym mywyd Wilf Davies, bugail o ardal Cellan.

Gwnaed y ffilm ar ôl i erthygl ymddangos ym mhapur The Guardian yn adrodd ei stori.

Wrth dyfu, treuliodd Wilf ei ieuenctid yn helpu ei deulu ar y fferm. “Dydw i erioed wedi bod eisiau rhedeg i ffwrdd oddi yma, hyd yn oed fel bachgen ifanc. Mae’r dyffryn hwn wedi’i dorri yn siâp fy nghalon. Ymwelais unwaith â fferm yn Lloegr, tua 30 mlynedd yn ôl: dyna’r unig dro i mi adael Cymru.”

Dywedodd Bedwyr Davies o Gwmann ar twitter neithiwr “Ffilm fer wych am #Wilf.  Cipolwg gwych ar yr hen ffordd o ffermio sydd gennym yng Ngorllewin Cymru.”

Rhannodd Sian Lloyd o Lanbed gynt ei theimladau am y ffilm ar facebook “Ffilm hudolus a theimladwy o un athronwyr y wlad. Ges i’r fraint o wrando ar ei ddoethineb ar aelwyd Ffosyffin yn fy mhlentyndod.”

Mynegodd Meinir Evans o Gwmann ar facebook hefyd “Cawr o foi gwybodus a chrefftwr heb ei ail. Mathemategwr o fri a chwaraewr draffts craff.  Ffrind oes, wastad yn ddi-flewyn a ffraeth.”

Roedd persbectif Wilf ar fywyd yn erthygl y Guardian yn taro tant gyda’r gwneuthurwr ffilmiau Christian Cargill yn anterth y cyfnod clo. Nid yw Wilf erioed wedi gadael ei ardal, yn bwyta’r un pryd bob dydd sef dau ddarn o bysgod, un winwnsyn mawr, wy a ffa pob.

Mae’n gweithio ar ei fferm ar ei ben ei hun, lle mae ei deulu o dros gant o ddefaid yn dibynnu arno.  Hyfryd oedd ei weld yn cael pleser o ffermio gan wneud yr holl dasgiau dyddiol ei hunan, o ffensio i fwydo’r defaid a newid olwyn tractor.

Er ei fod yn wynebu cymuned ffermio sy’n newid yn gyflym, mae agwedd chwilfrydig Wilf a’i gysylltiad â natur yn codi cwestiynau mawr ynghylch yr hyn y dylai pobl ei werthfawrogi mewn gwirionedd.

Hon yw’r ffilm gyntaf i gael ei chyfarwyddo gan Christian Cargill o Lundain, gyda cherddoriaeth wedi’i chyfansoddi gan Erland Cooper o’r Alban.

Wrth siarad am y rhaglen ddogfen ar ôl iddi gipio’r wobr yng Ngŵyl Ffilm Tribecca, dywedodd Christian: “Rwy’n credu i lawer o bobl dreuliodd y cyfnod clo mewn dinasoedd, fod stori Wilf wir yn cyffwrdd â’r dyhead hwnnw i ddatgysylltu.”

“Rwy’n cofio darllen y darn yn gyntaf a’i gael yn ysbrydoledig, yn anghonfensiynol ac yn hynod o galonogol. Pythefnos yn ddiweddarach, sylweddolais fy mod yn dal i feddwl am y bugail hwn nad oeddwn erioed wedi cwrdd ag ef ac yn y foment honno, roeddwn i’n gwybod ei bod yn stori roeddwn i eisiau ei harchwilio, i ddarganfod mwy am y dyn hwn a’i fywyd.”