Bwrlwm Wythnos Cymorth Cristnogol yn parhau yn Llanbedr Pont Steffan

Brecwast Mawr Capel Brondeifi a Thaith Gerdded Eglwys Sant Tomos, Llanbed

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
613A3A73-CC42-47F4-A4B8

A gawsoch chi ‘Frecwast Mawr’ bore Mercher 18 Mai yn cefnogi Cymorth Cristnogol? ’Roedd y selsig, y cig moch, yr wyau a’r ffa pob, ynghyd â’r tost a’r marmalêd, y te a’r coffi yn flasus dros ben yn Festri Brondeifi. ’Roedd hefyd ffrwythau ac iogwrt i’r rhai oedd eisiau brecwast gyda llai o galorïau!

Dechreuodd y coginio tan arweiniad Delyth (Y Pantri) a’i merched Meinir a Meleri a thîm profiadol o gogyddion a gweinyddesau cyn 7.00 y bore gyda’r bore godwyr cyntaf yn cyrraedd cyn 7.30 am frecwast. Trefnwyd raffl a’r bwrdd yn llawn gwobrau gwerth eu hennill yn golygu bod digon o waith plygu tocynnau gan y trefnwyr.

Daeth tyrfa o bell ac agos yno i gymdeithasu a chloncian tros frecwast wnaeth bodloni’r rhai mwyaf llwglyd!

Teithiodd criw ffilmio Tinnopolis o’r rhaglen ‘Prynhawn Da’ o Lanelli a chynhaliwyd sawl cyfweliad i’w darlledu ar S4C yn tynnu sylw at ymdrechion Pwyllgor Llanbed a’r Cylch yn cefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol. Pe byddech am wylio’r rhaglenni sy’n cynnwys y cyfweliadau, cofiwch gellir eu gwylio eto ‘ar alw’ ar S4C Clic.

Credir mai Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, deithiodd bellaf o Gaerdydd. Daeth gyda Tom Defis, Swyddog Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian Cymorth Cristnogol sy’n byw yn Sir Gâr ac yn gefnogol iawn ers blynyddoedd i waith Pwyllgor Llanbed a’r Cylch.

Cyfeiriodd Mari a Tom yn eu cyflwyniadau at bwysigrwydd gwaith cymunedau lleol yn cefnogi Cymorth Cristnogol. Cyfeiriwyd at lwyddiant pwyllgorau fel Pwyllgor Llanbed a’r Cylch a sut y maent yn ysgogi’r gymuned leol i gynnal gweithgareddau’n flynyddol i gefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol. Diolchwyd i’r ddau am eu cefnogaeth gan Twynog Davies, Cadeirydd Pwyllgor Llanbed a’r Cylch. Gwyddom i Mari a Tom fwynhau’r ‘brecwast mawr’ ac ’roeddent yn barod amdano ar ôl eu taith. Cewch wylio a gwrando ar y cyflwyniadau yn y fideo isod.

Cyrhaeddodd rhai yno am frecwast ‘te deg’ ac eraill am frecinio neu ginio cynnar iawn. Cyrhaeddodd eraill ar ddiwedd taith gerdded hamddenol o gwmpas Campws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant tan arweiniad y Parchedig Flis Randall a Deborah Angel o Eglwys Sant Tomos. ’Roedd yn hawdd adnabod bod y daith yn cefnogi Cymorth Cristnogol oherwydd bod sawl un ar y daith yn gwisgo crysau-t Cymorth Cristnogol!

Twynog Davies, Cadeirydd Pwyllgor Llanbed a’r Cylch gyflwynodd y diolchiadau. Diolchodd i’r trefnwyr am ‘Frecwast Mawr’ mor llwyddiannus; i bawb fu’n coginio’r holl frecwastau, yn eu gweini a chyfrannu’r gwobrau raffl; ac wrth gwrs i bawb ddaeth am ‘Frecwast Mawr’ i gefnogi Cymorth Cristnogol.

Cofiwch am y daith gerdded gan Gapel Bethel, Silian ddydd Sul 29 Mai am 2.00 o’r gloch y prynhawn sy’n rhan o weithgareddau Eglwysi Cylch Bedyddwyr Gogledd Teifi er budd Cymorth Cristnogol. Mae Undodiaid Dyffryn Aeron a’r Teifi hefyd yn trefnu taith gerdded i gefnogi Cymorth Cristnogol.  Bydd yr holl deithiau o gymorth i’r rhai sy’n cymryd rhan yn ‘Her 300,000 o gamau’ Cymorth Cristnogol i gyrraedd y nòd hwnnw erbyn diwedd Mai. Diolch yn fawr i bawb sy’n noddi’r criw sy’n cymryd rhan yn yr ‘Her 300,000 o gamau’.

Os dymunwch gyfrannu at ymgyrch codi arian Pwyllgor Llanbed a’r Cylch trwy’r we, mae ganddynt dudalen ar wefan GiveStar i dderbyn eich rhoddion.

Diolch yn fawr iawn i bawb am drefnu’r holl weithgareddau ac am eich rhoddion caredig a hael yn cefnogi gwaith Cymorth Cristnogol.