Bynting Cymru yn gwerthu mas!

Rhestr aros am fynting yn un o siopau Llambed

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies
Baneri

Mynd o Steddfod i steddfod….

Wrth deithio o amgylch Sir Ceredigion erbyn hyn y gwelwch bobl yn dechrau addurno eu tai, busnesau, ysgolion, cymunedau gyda baneri Cymru a bynting lliwgar.

Mae’n werth nodi fod ein siop leol yma yn Llambed wedi gwerthu mas o’r bynting erbyn hyn, ond mae digon o faneri Cymru ar gael.

Meddai Sandra Jervis, perchennog Creative Cove “Rydym wedi paratoi ers rhai wythnosau ar gyfer prynu baneri a bynting Cymru yn barod erbyn yr Eisteddfod. Mae’r siop wedi bod yn fisi iawn wythnos diwethaf yn barod ar gyfer Penwythnos y Gwisgo. Gwerthwyd dros 100 o becynnau mewn llai na 2 ddiwrnod dros y penwythnos ac erbyn hyn mae gennym restr aros!! Dydy’r cyflenwr sydd gyda ni ddim yn gallu cael rhagor ar hyn o bryd, ond rydym yn edrych yn ddyddiol am ragor”.

Felly, gobeithio bydd Ceredigion i gyd wedi eu harddu yn fôr o liwiau i groesawu trigolion Cymru erbyn daw Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion i Dregaron ddiwedd y mis.