Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn codi arian at wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru

Y Cynghorydd Eirwyn Williams o Barc-y-rhos yn cerdded 255 milltir.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn gwisgo’i esgidiau cerdded mewn ymdrech i godi arian at wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae’r Cynghorydd Eirwyn Williams o Barc-y-rhos, sy’n cynrychioli ward Cynwyl Gaeo, wedi bod yn codi arian i’r elusen ers iddo ddechrau yn y swydd fis Mai diwethaf.

Addawodd gerdded yr un hyd â ffin y sir, sef tua 255 milltir, yn gyfnewid am nawdd – ond mae ar y trywydd iawn i wneud y pellter hwnnw teirgwaith, gan gerdded dros 550 milltir yn barod ers iddo ddechrau ar ei genhadaeth, a does dim arwyddion iddo stopio.

Mae’r Cynghorydd Williams wedi bod yn cerdded yn lleol gyda’i wraig Joyce a’i deulu bron bob dydd er mwyn cerdded y pellter, yn hytrach na cherdded y ffin wirioneddol a fyddai wedi golygu teithio sylweddol – ac, fel y dywedodd – yn dod i ben yn y môr!

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen bwysig iawn, sy’n derbyn pob ceiniog o’i chyllid drwy roddion elusennol,” meddai.

“Rwyf wedi mwynhau fy nheithiau cerdded yn fawr a byddaf yn parhau i gerdded cynifer o filltiroedd ag y gallaf yn ystod fy nghyfnod yn y swydd i godi cymaint o arian â phosibl i’r elusen.”

Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ac mae ei ddyletswyddau’n cynnwys cadeirio cyfarfodydd llawn y cyngor a chynrychioli’r cyngor mewn achlysuron ffurfiol a seremonïol yn y sir a thu hwnt, yn ogystal â chroesawu gwesteion a chefnogi digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol.

Mae’r Cynghorydd Williams wedi bod yn gynghorydd sir ers 1995, yn cynrychioli ward Pencarreg tan 1999, a’i ward bresennol yn Ward Cynwyl Gaeo ers hynny.

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cwmpasu holl ardal Cymru, gan gynnal tua 2,500 o deithiau bob blwyddyn i ddarparu gofal meddygol uwch ar ei hofrenyddion a chludo pobl ddifrifol wael i’r ysbyty.

Mae’r gwasanaeth yn dibynnu’n llwyr ar gymorth cyhoeddus ac mae angen iddo godi £8 miliwn bob blwyddyn i weithredu’r gwasanaeth.

I noddi teithiau cerdded elusennol y Cadeirydd a chyfrannu tuag at wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, ffoniwch 01267 228686 a gofynnwch am roi rhodd i Elusen y Cadeirydd. Mae modd talu drwy siec hefyd, dylai pob siec fod yn daladwy i ‘Cyngor Sir Caerfyrddin Cyfrif Cadeirydd’  a’u hanfon at Eira Evans, Adran y Prif Weithredwr, Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.