Cadw Llambed yn daclus

Gwirfoddolwyr yn codi sbwriel o amgylch y dref.

gan Siwan Richards
Aelodau’r Cyngor Tref ac aelodau’r cyhoedd
Aelodau o Academy of Sinology Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed

Diolch i aelodau o Academy of Sinology Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed, aelodau’r Cyngor Tref ac aelodau’r cyhoedd am gasglu sbwriel o amgylch Llambed yn ddiweddar.

Cofiwch wneud eich rhan i gadw Llambed yn daclus.

Mae pecynnau codi sbwriel ar gael i’w benthyg o llyfrgell Llambed, sy’n un o bedwar hwb yn y sir.

Mae pob pecyn yn cynnwys:

  • Teclyn codi sbwriel
  • Bagiau sbwriel ac ailgylchu ar gyfer deunyddiau a gasglwyd
  • Cylch i gadw’r bagiau ar agor
  • Siaced lachar i gadw gwirfoddolwyr yn ddiogel

Gallwch wneud cais i fenthyg pecyn ar dudalen codi sbwriel yn wirfoddol.