Mae plant yr ardal wedi bod yn fishi’n dymuno blwyddyn newydd dda bore ma. Dyma ambell fideo neu lun i chi gael blas o’r hwyl.
Lisa ac Alaw yn Canu Calennig yn Blaencwrt bore ’ma.
Roedd hi’n fore mwyn, gydag ambell gawod ysgafn. Diolch byth.
Canu Calennig drwy WhatApp oedd Siwan a’i mam Geinor o Lanbed bore ’ma gan gadw digon o bellter cymdeithasol. Roedd hi’n gorfod bod yr un mor ddyfeisgar wrth dderbyn arian Calennig hefyd!
Trefor a Leisa yn canu yn Olwen, Llambed.
Roedd Elin, Aled, Gwawr, Aled, Paul, Menna a Martha wrth eu bodd.
Aron, Sara, Bethan a Ffion gyda fwy o drigolion ardal Clonc. Dai no. 7, Doris Wilson Heol y Gaer, Joy, Heol y Gaer, Jean Llwynygog a Brenda, Gwel y Cledlyn Cwrtnewydd.
Mae’r croeso a’r ymateb wedi bod yn arbennig gyda phawb wrth eu bodd yn gweld plant yn canu ac yn dymuno blwyddyn newydd dda.
Ilan-Rhun wedi bod yn fishi yn canu yng Ngorsgoch a Chwrtnewydd. Yn y lluniau, mae e gyda Tad-cu Maesygarn, Huw Alltgoch a Martha Llain.
Leisa a Trefor yn canu calennig tu flaen Neuadd yr Hafod lle roedd criw o gerddwyr wedi crynhoi.
Criw Clyncoch mas yn canu yng Nghwmsychpant a Gorsgoch. Osian, Elis, Lois, Wil, Magi a Nel.
Mam Llain wrth ei bodd yn clywed canu wrth ei drws ar fore dydd Calan.
Aron a Sara yn Gorwel, Gorsgoch.