Calennig Clonc360

Blwyddyn newydd dda o ardal Clonc!

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
IMG-20220101-WA0012-1

Mae plant yr ardal wedi bod yn fishi’n dymuno blwyddyn newydd dda bore ma. Dyma ambell fideo neu lun i chi gael blas o’r hwyl.

20:17

Lisa ac Alaw yn Canu Calennig yn Blaencwrt bore ’ma. 

19:03

Roedd hi’n fore mwyn, gydag ambell gawod ysgafn. Diolch byth. 

18:22

Canu Calennig drwy WhatApp oedd Siwan a’i mam Geinor o Lanbed bore ’ma gan gadw digon o bellter cymdeithasol.  Roedd hi’n gorfod bod yr un mor ddyfeisgar wrth dderbyn arian Calennig hefyd!

17:03

IMG-20220101-WA0034

Canu yn Olwen, Llambed

Trefor a Leisa yn canu yn Olwen, Llambed.

Roedd Elin, Aled, Gwawr, Aled, Paul, Menna a Martha wrth eu bodd. 

16:19

IMG-20220101-WA0016

Dai no7 yn joio’r canu gan Aron a Sara

IMG-20220101-WA0014-1

Doris Wilson, Heol y Gaer, Llanybydder

IMG-20220101-WA0013

Joy yn Heol y Gaer yn mwynhau y canu.

IMG-20220101-WA0011

Jean, Llwynygog, Gorsgoch

IMG-20220101-WA0012

Brenda, Gwel y Cledlyn

Aron, Sara, Bethan a Ffion gyda fwy o drigolion ardal Clonc. Dai no. 7, Doris Wilson Heol y Gaer, Joy, Heol y Gaer, Jean Llwynygog a Brenda, Gwel y Cledlyn Cwrtnewydd.

Mae’r croeso a’r ymateb wedi bod yn arbennig gyda phawb wrth eu bodd yn gweld plant yn canu ac yn dymuno blwyddyn newydd dda. 

16:17

IMG-20220101-WA0030

Ilan-Rhun yn gorffen y canu gyda Dacu Maesygarn

IMG-20220101-WA0029

Ilan-Rhun yn canu yn Alltgoch gyda Huw.

IMG-20220101-WA0028

Ilan-Rhun yn Llain

Ilan-Rhun wedi bod yn fishi yn canu yng Ngorsgoch a Chwrtnewydd. Yn y lluniau, mae e gyda Tad-cu Maesygarn, Huw Alltgoch a Martha Llain. 

16:14

IMG_20220101_100248

Sara, Gwawr, Trefor a Leisa yn dechrau arni.

IMG_20220101_101517

Leisa a Trefor yn canu calennig tu flaen Neuadd yr Hafod lle roedd criw o gerddwyr wedi crynhoi. 

15:32

Criw Clyncoch mas yn canu yng Nghwmsychpant a Gorsgoch. Osian, Elis, Lois, Wil, Magi a Nel. 

15:31

IMG-20220101-WA0019-1

Trefor a Leisa

IMG-20220101-WA0025-1

Bethan a Ffion

IMG-20220101-WA0015

Aron a Sara

IMG-20220101-WA0010

Esyllt ac Efa

Mam Llain wrth ei bodd yn clywed canu wrth ei drws ar fore dydd Calan. 

15:27

Aron a Sara yn Gorwel, Gorsgoch.