Canmol gweithwyr lleol wrth ddatrys sefyllfa anodd yn Llanybydder

Bu’r ffordd fawr ar gau ger y Lladd-dy wrth achub trelar 25 tunnell yn llawn carcasau crog

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
2C666814-927C-4170-9569

Lluniau: Tudalen facebook Whites Transport Services Cyf

Ar nos Wener, Ionawr 28ain bu heol yr A485 ger lladd-dy Llanybydder ar gau am oriau oherwydd roedd trelar lorri llawn carcasau anifeiliaid o Dunbia wedi dod yn rhydd a bu gweithwyr lleol yn gweithio’n ddiwyd drwy’r nos yn datrys y sefyllfa.

Dymuna Pete White o gwmni Whites Transport Services Cyf ddiolch i bawb a helpodd drwy gydol y nos yn enwedig Grant Rees a Gary Rees o Station Garage Llanybydder.

Cyrhaeddodd Grant ymhen 2 funud wedi’r ddamwain a Gary ei dad a oedd yn brysur yng Nghaerfyrddin yn newid ei gynlluniau i’w gynorthwyo. Dywed Pete fod y dynion hyn yn fecanics profiadol sy’n wych am asesu sefyllfaoedd anodd.

Yn anffodus roedd y trelar wedi dod i stop dros bont ac roedd coes chwith y trelar ar dir meddal eisoes wedi cloddio’n ddwfn i’r tir. Doedd tynnu’r trelar yn araf ddim yn opsiwn. Roedd angen craen arnynt. Cyn codi’r trelar, roedd angen tynnu’r gwifrau trydan uwchben yn rhydd. Roedd hyn i gyd yn digwydd ar dro cas a chyflym yn y ffordd fawr hefyd.

Roedd y trelar yn pwyso dros 25 tunnell a dim ond llwyddo i’w godi a wnaeth y craen. Roedd y ffordd ar gau yn gyfan gwbl a chafodd y llwyth llawn o garcasau crog ei gludo bore trannoeth am 5 o’r gloch er mwyn asesu’r difrod i’r trelar.

Mae’r diolch yn bennaf i weithwyr lleol am ddatrys y sefyllfa ac am lwyddo i beidio gwneud sefyllfa anodd yn waeth.  Llwyddwyd i arbed cynnwys y trelar ac ail agor y ffordd fawr erbyn oriau mân bore Sadwrn.