Canolfan Breswyl i Siaradwyr Newydd yn Llambed

Gillian Elisa Thomas yn agor y ganolfan gyda help Mrs OTT!

gan Gwyneth Davies

Ar nos Wener, Awst 12fed agorwyd adeilad Garth Newydd yn Llambed yn swyddogol a braf oedd gweld rhai o’r ardalwyr, dysgwyr a thiwtoriaid yno’n cefnogi. Canolfan Breswyl fydd hon gyda chyrsiau yn cael eu cynnal ar benwythnosau i godi hyder siaradwyr newydd yn y Gymraeg.

Marcus Whitfield, gŵr sy’n byw yn Swydd Caint ar hyn o bryd ond yn wreiddiol o ardal Wrecsam, yw sylfaenydd y fenter ac mae e a’i dîm o weithwyr wedi bod yn ddiwyd yn ddiweddar yn adnewyddu’r adeilad. Fe sy’n rhedeg paned.cymru a dyma’r llety cyntaf o’i fath i’w sefydlu yng Nghymru.

Trochi’r dysgwyr yn yr iaith yw’r bwriad a rhoi cyfle iddynt gymysgu â siaradwyr iaith gyntaf gan fwynhau diwylliant Cymraeg yn ogystal.  Bydd themâu penodol yn cael eu dewis ar gyfer rhai penwythnosau a hynny er mwyn cynnal diddordeb.

Yng Ngorffennaf 2021, dechreuwyd rhedeg cyrsiau tebyg yng Nghiliau Aeron ac mae cydweithio â busnesau a chymdeithasau fel Gwinllan Llaethliw, Canolfan y Barcud Coch a’r clwb bowlio lleol wedi profi i fod yn llwyddiant ysgubol gan roi cyfleoedd arbennig i’r dysgwyr.

Felly braf oedd gweld Garth Newydd ar ei newydd wedd nos Wener a’r actores amryddawn Gillian Elisa Thomas a Cariad ei chi bach annwyl yno i’n diddori ni i gyd. Gwnaed y diolchiadau gan Marcus Whitfield a Nia Llywelyn, sydd wedi bod yn rhan allweddol o’r fenter. Wrth gyfeirio at Winllan Llaethliw, darllenodd Nia ddetholiad allan o ddrama enwog Saunders Lewis sef ‘Buchedd Garmon’ sy’n cychwyn – ‘Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad.’

Gan fod y tywydd yn boeth, doedd hi’n fawr o syndod felly i glywed Gillian yn cyhoeddi ei bod am fynd i mewn i’r adeilad i gysgodi am ychydig a chael paned bach o de i dorri syched. Ond, mewn chwinciad chwannen, pwy ymddangosodd yn wên o glust i glust ond Mrs OTT gyda’r bwriad o dorri’r rhuban. Siom o’r mwyaf oedd hi felly pan glywodd bod Gillian wedi ennill y blaen arni. Ond, ta waith am hynny, roedd Mrs OTT wedi paratoi’n drwyadl chwarae teg iddi gan ysgrifennu geiriau pwrpasol i’r gân ‘You’ll never walk alone’ a’i pherfformio yn ei ffordd unigryw ei hun.

Ar ôl cyhoeddi bod y ganolfan ar agor yn swyddogol, cafodd pawb gyfle i gael golwg o gwmpas a gwerthfawrogi’r holl waith caled ynghlwm â’r fenter. Golygir creu murluniau yn yr ystafelloedd gwely a rheini’n seiliedig ar straeon T.Llew Jones, sef tad-cu Nia. Philip Huckin, dysgwr o Bennant fydd yr arlunydd ac mae e eisoes wedi cael blas arni drwy greu murlun bendigedig o Siôn Cwilt sy’n werth ei weld.

Cyn gorffen, cafwyd lluniaeth ysgafn a chyfle am glonc. Ffilmiwyd y noson gan gwmni teledu Tinopolis a chaiff ei darlledu ar raglen Heno nos Lun, Awst 15fed. Felly, cofiwch wylio. Os am fwy o wybodaeth am y prosiect ac am Garth Newydd, ewch i’r wefan www.paned.cymru