Cantorion Ceredigion yn canu unwaith eto

Ail-lansio corau’r Eisteddfod Genedlaethol.

gan Rhiannon Lewis
Cor-Lloergan yn ymarfer mis Mawrth 2020
Cor y Gymanfa yn ymarfer MAwrt 2020

Wedi dwy flynedd o ddistawrwydd mae aelodau nifer o gorau Ceredigion yn dechrau dod nôl at ei gilydd i ganu unwaith eto, ac ymhlith y corau hynny mae corau Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.

Ar ôl gohirio’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2020 a 2021 mae cryn edrych ymlaen erbyn hyn at yr ŵyl sydd i’w chynnal yn Nhregaron eleni.

Agorir yr Ŵyl nos Wener, Gorffennaf 29ain gyda premiére o’r sioe ‘Lloergan’. Er bod y sioe wedi ei gosod yn y dyfodol ac yn edrych ar berthynas gofodwraig o Geredigion gyda’r lleuad, mae hefyd yn archwilio ei hymrwymiad i’w milltir sgwar ac Abaty Ystrad Fflur yw cefnlen y cyfanwaith.  Crëwyd y stori a’r sgript gan Fflur Dafydd (enillydd rhai o brif wobrau llenyddol yr Eisteddfod ac awdur ‘Yr Amgueddfa’, un o gyfresi mwya’ poblogaidd S4C yn ddiweddar).  Cyfansoddwyd y caneuon gan y ddau frawd Griff Lynch a Lewys Wyn (o grwpiau Yr Ods a Yr Eira), a Rhys Taylor yw’r cyfarwyddwr cerdd, ac arweinydd.

Fideo @Elsfach

Dechreuodd y côr ddysgu’r gwaith ym mis Tachwedd 2019 ond daeth y cyfan i ben ganol Mawrth 2020 gyda chyfyngiadau’r clo mawr.  Erbyn hyn, gyda’r rheolau’n llacio bydd yr ymarfer yn ail-gychwyn nos Lun, Mawrth 14eg am 7.30 p.m. yn Neuadd Y Celfyddydau, campws Llanbed o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Fideo @DafWyn90

Bydd Côr y Gymanfa (dan arweiniad Delyth Hopkins Evans) yn dod nôl at ei gilydd wythnos yn ddiweddarach, ar Fawrth 21ain yn yr un lleoliad ac yn paratoi ar gyfer canu anthem neu ddwy a’r emyn dôn fuddugol yng Nghymanfa’r Eisteddfod a fydd yn cael ei gynnal yn y pafiliwn ar y maes yn Nhregaron, nos Sul, Gorffennaf 31ain.

Diddordeb?  Hoffet ti ddod i ganu? Mae croeso i’r cyn-aelodau a chantorion newydd i ddod ynghyd a bod yn rhan o ddigwyddiad a pherfformiadau arbennig iawn.  Beth amdani?  Cysylltwch â mi mrhiannonlewis@hotmail.com am fwy o wybodaeth.