Capeli’n codi cannoedd at Fanc Bwyd Llanbed

Cyfraniad o wasanaethau a the prynhawn Undodiaid Aeron Teifi

Dylan Iorwerth
gan Dylan Iorwerth

Mae Capeli Undodaidd Aeron Teifi wedi cyflwyno siec am dros £340 a sawl bagiad o fwyd i Fanc Bwyd Llanbed ar ôl cyfres o ddigwyddiadau cefnogi.

Roedd casgliadau bwyd ac arian o wasanaethau Diolchgarwch y grŵp o chwe chapel yn mynd at yr achos ac fe gynhalion nhw hefyd de prynhawn yn Neuadd Felinfach (yn y llun).

Roedd yr aelodau wedi paratoi brechdanau a chacenni o bob math ac yn gweini’r cyfan – doedd dim pris mynediad dim ond cais am gyfraniadau.

Mae’r capeli’n cynnwys pedwar o ardal Clonc360 – Alltyblaca, Capel y Groes Llanwnnen, Cribyn a Chaeronnen – ac maen nhw’n cydweithio ar weithgareddau o bob math.

Fe gafodd y cyfraniadau groeso mawr wrth i’r banciau bwyd wynebu mwy o brysurdeb nag erioed o’r blaen, gydag angen am nwyddau cynnes fel blancedi, yn ogystal â bwyd.