Band y Carnifal
Dyma rai o atgofion pentrefwyr Llanybydder o’r Carnifal ar hyd y blynyddoedd:
Y carnifal cyntaf mae Jean Davies, Heol y Gaer yn ei gofio yw’r carnifal a gynhaliwyd ar ddiwrnod y Coronation. Y British Legend wnaeth ei drefnu gan nad oedd Pwyllgor y Pentref wedi cael ei sefydlu bryd hynny. ‘One off oedd e,’ meddai Jean ‘ond roedd e’n garnifal go arbennig i fi gan mai fi oedd y Fairy Queen ac ro’n i ar y lori gyda’r morynion. Roedd lori arall wedyn ar gyfer y Frenhines a’i morynion hithau,’ ychwanegodd. ‘Atgof arall sydd gen i am y carnifal y flwyddyn honno,’ meddai ‘oedd bod y teulu Nidhols, a oedd â siop fara ar waelod y pentre, wedi peintio eu tŷ yn goch, glas a gwyn yn arbennig ar gyfer y dathlu.
Cofia Irene Davies, Heol y Gaer mai mewn cae tu cefn i dŷ Dolwerdd, ochr draw’r ffordd i’r mart, y cynhaliwyd y carnifal cyntaf gan Bwyllgor y Pentref. Fe’i symudwyd wedyn i’r mart, ac yn ddiweddarach i’r parc , lle cynhaliwyd mabolgampau’n ogystal. Ond, drwy garedigrwydd y Brodyr Evans, roedd modd dychwelyd i’r mart pe bai’n wlyb. Erbyn hyn wrth gwrs, caiff y Carnifal ei gynnal ar gae’r clwb rygbi. Wrth siarad gyda thrigolion y pentre, roedd pawb yn gytûn bod diwrnod y Carnifal wedi bod yn ddiwrnod go arbennig ar hyd y blynyddoedd a thyrfa’n cefnogi’n flynyddol.
Ymysg y rhai a rannodd eu hatgofion â mi oedd Elonwy Davies. Dyma a ddywedodd hi, ‘Dw i’n cofio mam a Mai Coles yn gwisgo lan yn flynyddol. Un flwyddyn fe wisgon nhw lan fel Chamber Maids. Fe alla i eu gweld nhw nawr – y ddwy mewn gŵn nos gyda chert neu bram bach gyda nhw. O’u cwmpas wedyn roedd chambers a’r geiriau ‘Chamber music’ ar gardfwrdd tu blaen. Blwyddyn arall, roedd asyn gyda nhw ac ro’n nhw wedi gwisgo lan fel casglwyr cocos. Anghofia i byth am yr asyn gan ei fod wedi rhedeg bant ond fe’i daliwyd, diolch i’r drefn, yn Stryd y Bont gan weinidog capel Rhydybont.’ Roedd cartref Elonwy a’i chwaer Dulcie, sef Bridgend (Siop y Barbwr), ar waelod y pentref ac yn gyfleus iawn i’r carnifal. Yng nghanol yr holl fwrlwm, cofia Dulcie bod eu cartref nhw yn brysur iawn bob amser gan fod nifer yn dod atyn nhw i baratoi.
Un arall a oedd yn gwisgo lan yn flynyddol oedd Ann Gwarduar. Dyma a ddywedodd hi, ‘Roedd y carnifal yn un o highlights y flwyddyn a dw i’n cofio ennill cwpan un tro am wisgo lan fel Hattie Jacques. Ro’n ni’n cael lot o hwyl. Dw i’n cofio rhywdro wedyn gweld car a threlar yn cyrraedd. Dim ond gwair o’ch chi’n gweld yn y trelar ond yn sydyn dyma pen dau fochyn bach yn codi lan. Wel ro’n ni’n chwerthin! Dwy o’r pentref oedd y creaduriaid bach drwg. Dw i’n cofio bod yn rhan o fflôt ‘Love Thy Neighbour’ hefyd a sawl un ohonon ni wedi pardduo ein cyrff. Wrth gwrs, fydde hyn ddim yn dderbyniol mwyach. Roedd un fenyw yn cario dol ddu ac roedd ei hwyneb a rhannau o’i chorff yn ddu i gyd. Yn sydyn, cogiodd ei bod yn bwydo o’r fron a dyma pawb yn dechrau chwerthin gan fod rhannau o’i chorff hi’n wyn. Gwisgodd plant Glanduar lan fel Dr Who and the Daleks un flwyddyn hefyd a rhywun yn cyfeirio atynt fel ‘Dr Who and the Dialects’. Amseroedd hapus o’n nhw.’
Dywed Jean ei bod hi wedi cael ei chodi lan i gymryd rhan yn y carnifal. ‘Roedd wythnos cyn y carnifal yn brysur iawn gan fod lot o waith paratoi,’ meddai. ‘Fe fydden ni’n benthyg pethe wrth hwn a’r llall ac yn cael lot o hwyl wrth addurno’r loris. Ro’n ni’n ddrwg iawn pan o’n ni’n hŷn achos fe fyddai bob amser potel fach ar y lori a rhywbeth ynddi i dorri syched,’ ychwanegodd gan chwerthin. Wrth sgwrsio gydag Ieuan, fe ddywedodd wrtha i fod yna gystadleuaeth addurno ffenest siop yn y carnifal ar un adeg a bod eu siop nhw sef Elvet House wedi ennill sawl gwobr. Arferai gweithwyr y siop gystadlu’n flynyddol gan wisgo lan a chael lot o hwyl.
Os hoffech ddarllen mwy am Garnifal Llanybydder, mynnwch gopi cyfredol o Bapur Bro Clonc. Cofiwch, os oes gennych storïau i’w rhannu â ni am Lanybydder, cysylltwch â fi – Gwyneth Davies ar 01570 480683 neu gwyneth-davies@outlook.com