Cefnogi busnesau bach yn yr Eisteddfod

Mae nifer o fusnesau Ceredigion wedi manteisio ar y cyfle i werthu eu cynnyrch mewn stondin ar faes y brifwyl.

gan Siwan Richards
C7AE9648-04A2-42F4-B101

L P-D

Mae ymweliad Eisteddfod Genedlaethol Cymru â Cheredigion yn gyfle ardderchog i hyrwyddo busnesau lleol a rhoi hwb i’r economi.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi busnesau lleol a bach, ac yn falch bod rhai ohonynt wedi derbyn y gwahoddiad i arddangos eu cynnyrch mewn cytiau pren ar y stondin ym Mhentre’ Ceredigion.

Dyma ddangos bod Ceredigion yn lle da i wneud busnes, ac yn gyfle i’r busnesau yma i hyrwyddo a gwerthu eu cynnyrch.

Bydd tua 15 o gwmnïau o Geredigion yn manteisio ar y cytiau pren yn ystod yr wythnos. Yn eu plith, mae Pethau Melys, Galeri Gwyn, Bay Coffee Roasters, CreatEmAber, Yoga Essentials, Canfas, Tonnau Surf, U Melt Me, Gwella, L P-D, Atebol, Coffi & Bara, In the Welsh Wind, Recover Eden, ac Aberdabbadoo.

Bydd cyfle hefyd i bobl ddysgu mwy am gwmnïau bwyd a diod y sir yn yr arddangosfeydd coginio dyddiol am 11:30am ym mhrif babell Pentre’ Ceredigion. Cofiwch alw heibio am rywbeth i dynnu dŵr i’ch dannedd.

Un cwmni lleol sydd wedi manteisio ar hyn yw’r cwmni crefftau L P-D. Dywedodd Lowri Pugh-Davies o Langybi: “Dyma gyfle arbennig tu hwnt i fy musnes bach. Rwy’n hynod o ddiolchgar am y fraint a’r cyfle gwych i fasnachu, ar y cyd â busnesau eraill o Geredigion, a hynny dafliad carreg o’m cartref. Bydd y profiad hyd yn oed yn fwy arbennig i mi gan taw hwn fydd yr Eisteddfod gyntaf i mi fynd â stondin iddi, a’r digwyddiad mwyaf i fy musnes bach. Diolch yn fawr iawn am y cyfle amhrisiadwy.”

Beth am ymweld â rhai o ardaloedd eraill Ceredigion dros gyfnod y brifwyl hefyd? Dyma flas o’r hyn sydd gan y sir i’w gynnig.

Ychwanegodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Mae gan fusnesau Ceredigion gymaint i’w gynnig ac mae ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r sir yn gyfle heb ei ail i ddathlu a hyrwyddo hynny. Bydd yn braf gweld ymwelwyr â’r sir yn mentro i bob congl o Geredigion i flasu a chefnogi busnesau’r ardal, ynghyd â dod ar draws cwmnïau diddorol ar y maes ei hun. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o allu cefnogi busnesau llai hefyd trwy gynnig slotiau mewn cytiau masnachu pren yn ystod yr wythnos. Cofiwch alw heibio.”

Dyma amserlen lawn Pentre’ Ceredigion.

Gallwch hefyd lawrlwytho ap yr Eisteddfod a chael mwy o wybodaeth ar wefan yr Eisteddfod.