Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Hir yw pob aros, ond mae’r paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod ar eu hanterth o’r diwedd.
Bydd miloedd o ddysgwyr a siaradwyr newydd o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn heidio i’r maes, felly beth am ddod draw i’r caffi ym Maes D am baned a chlonc i’w croesawu i Geredigion?
Byddwn yn cynnal sesiynau sgwrsio anffurfiol bob dydd rhwng 2.30 a 3.30 y prynhawn, ac mae angen eich help arnom. Y cyfan sydd eisiau ei wneud yw galw heibio; bydd aelodau o staff wrth law i’ch croesawu a chardiau siarad i sbarduno sgyrsiau syml.
Cysylltwch â ni drwy ebost: learnwelsh@aber.ac.uk neu ffoniwch 0800 876 6975 os gallwch dreulio ychydig o amser yn siarad â dysgwyr yn ystod yr wythnos. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Nhregaron!