Ceredigion neu Sir Gâr? Pigion digwyddiad Cwestiwn a Chlonc

Ar nos Fercher, y 27ain o Ebrill, daeth criw i’r Grannell i holi panel o bedwar am faterion amrywiol

gan Ifan Meredith
IMG_6522

O’r Rhyfel yn yr Wcrain i ddewis bod yn sownd mewn lifft gyda Huw Edwards neu Derek Brockway, fe fu Delor James, Y Prifardd Tudur Dylan Jones, Dr. Catrin Williams ac Endaf Griffiths yn ateb cwestiynau Undodiaid Aeron Teifi a’u ffrindiau.

Roedd yna ystafell lawn yng Ngwesty’r Grannell, Llanwnnen, yn gwrando ar y pedwar yn trafod materion y dydd – rhai dwys a rhai ysgafn. Roedd rhaid iddyn nhw hefyd ddweud sut y bydden nhw’n ymddwyn mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd anodd.

Fe lwyddodd raffl ar y noson i godi £56 a chafodd hwnnw’i gyflwyno i fudiad sy’n prynu moddion i’r Wcrain.

Dyma fideo o bigion y noson: