Chwerthin a chanu a chlonc

Llond lle o hwyl yn Nathliad Pen-blwydd Papur Bro Clonc yn 40.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llawenhau oedd pobl ardal Llanbed nos Wener ddiwethaf yn Nathliad Pen-blwydd Papur Bro Clonc yn 40 oed.  Diolch yn arbennig am ddifyrrwch y diddanwr Gary Slaymaker a llond lle o ganu hwylus yng nghwmni Dafydd Pantrod a’i fand.  Trefnwyd y noson ar y cyd â Phwyllgor Parêd Gŵyl Dewi Llanbed.

Dechreuodd pethau am 6 o’r gloch pan ddaeth criw o wirfoddolwyr a charedigion Clonc at ei gilydd cyn i’r noson fawr ddechrau.  Cyflwynodd Dylan Lewis, Cadeirydd Clonc ddwy siaradwraig wadd sef Elin Williams a Nans Davies.  Roedd Elin a Nans yn olygyddion ar y papur bro nôl yn 1982 pan sefydlwyd y papur, a rhannwyd atgofion difyr gan y ddwy o’r weledigaeth a fu ar y cychwyn a’r gwaith caled oedd bryd hynny cyn dyfodiad cyfrifiaduron er mwyn sicrhau cyhoeddiadau safonol.

Fe lenwodd ystafell lofft Clwb Rygbi Llanbed erbyn 7 o’r gloch pan ddechreuodd yr adloniant dan arweiniad Gary Slaymaker sy’n ddiddanwr profiadol yn wreiddiol o Lanbed.  Rhannodd sawl stori cofiadwy, gyda’r gynulleidfa’n bloeddio chwerthin.

Cyflwynodd Dafydd Pantrod a’i fand, sef Dafydd Davies, Cefin Vaughan a Dafydd Vaughan sawl set fyw o gerddoriaeth adnabyddus a phoblogaidd o ganeuon Dafydd Iwan i Tecwyn Ifan, caneuon gwerin cyfarwydd ac emynau sionc, ac wrth i’r noson fynd ymlaen ymunodd pawb yn y canu.

 

Yn ystod y noson cafwyd sawl cystadleuaeth ysgafn:

Gorffen Limerig (a baratowyd gan Janet Evans)

Y beirniad oedd Ben Lake AS a draddododd ei sylwadau yn ogystal â darllen detholiad o’r goreuon.

Yn gydradd ail oedd Einir Ryder ac Eddie Thomas gydag Eddie yn ennill y wobr gyntaf hefyd.

Mae heno yn noson o ddathlu,

Medd Dylan wrth Nia a Mary,

Daw atgofion yn llu

O’r amserodd a fu,

Ond peidiwch anghofio am fori.

Darllen darn heb ei atalnodi (a baratowyd gan Delyth Morgans Phillips)

Dewiswyd Rhys Bebb Jones yn feirniad ar y gystadleuaeth hon a dyfarnodd fel a ganlyn:

1af Megan Dafydd a chydradd ail i Ifan Meredith ac Elin Dafydd.

Raffl (a drefnwyd gan Nia Wyn Davies a Mary Davies)

1. Hamper o Laeth Gwarffynnon yn rhoddedig gan Dai a Gwen Davies i Islwyn Williams, Cwmann.

2. Bocs set CDs y Cyrff yn rhoddedig gan Rhys a Shan Jones i Cefin Vaughan o’r band.

3. Ffrâm o argraffiad gan James Loveday o linell allan o englyn y diweddar T Glenfil Jones yn rhoddedig gan Dylan a Carys Lewis i Wynne Davies, Llanbed.

4. Taleb Gwesty’r Grannell yn rhoddedig gan Nia, Mary a Gareth Davies i Fflur Meredith, Llanbed.

5. Tocyn Llyfr yn rhoddedig gan Eryl Jones i Meleri Jones, Llanbed.

6. Nwyddau Papur Bro Clonc i Elin Jones, Cwmann.

7. Cacennau’r Dathlu o waith Gareth Richards i Sarah Ward, Llanbed.

Dosbarthwyd hen rifynnau Clonc ar y byrddau yn yr ystafell, gan gynnwys y rhifyn cyntaf a’r tri rhifyn a gyhoeddwyd yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol 1984, Diolch i Nans Davies am ddod â nhw.  Roedd pawb wrth eu bodd yn pori trwyddynt.

Rhannwyd cacen pen-blwydd fach i bawb oedd yn bresennol a chanwyd Pen-blwydd Hapus i gyfeiliant Dafydd Pantrod a’i fand.

Diolch Nicola a’i staff cyfeillgar am y croeso yn y Clwb Rygbi.  Bu’n noson lwyddiannus iawn a phawb yn cytuno eu bod wedi mwynhau.  Gwyliwch y fideo uchod er mwyn cael blas o hwyl y noson.