Chwilio am weithwyr i Faes yr Eisteddfod

Gydag ychydig wythnosau yn unig i fynd tan Eisteddfod Ceredigion, mae’r trefnwyr am glywed gan weithwyr lleol sy’n awyddus i fod yn rhan o’r tîm

gan Gwenllian Carr

Eisteddfod Genedlaethol

Dim ond deufis sydd i fynd tan y bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i Dregaron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, ac ar ôl dwy flynedd o ddisgwyl, mae’n argoeli i fod yn wythnos i’w chofio!

Cyn bo hir, bydd y gwaith yn cychwyn ar y Maes ac mae’r trefnwyr am glywed gan weithwyr lleol sy’n chwilio am waith dros y misoedd nesaf er mwyn rhoi tîm at ei gilydd.  Mae digonedd i’w wneud, gan gynnwys codi ffensys, paratoi’r maes carafanau ayb wrth i ni baratoi i groesawu pawb i’r ardal.

Os ydych chi’n chwilio am waith dros y misoedd nesaf, cysylltwch!  Ebostiwch gwyb@eisteddfod.cymru i drefnu sgwrs.