Yr Old Quarry yn Llanbed i ailagor

Dod â phobl ynghyd ar gyfer cerddoriaeth fyw, bwyd a diod, amseroedd da a naws da!

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
D2D1789F-EEE1-40B2-B304
FB1381C5-45D9-442F-A086
514A2CB7-26FD-4F5F-B687

Bydd yr Hen Gware yn Llanbed yn agor fel Lleoliad Minds Eye ar Ddydd Gwener 12fed a Dydd Sadwrn 13eg o Awst.  Mewn datganiad gan Minds Eye ar facebook dywedir eu bod yn hynod gyffrous ac yn brysur yn gweithio’n galed i ddod â gweledigaeth Minds Eye yn realiti yn y lleoliad hanesyddol hardd.

“Ein nod yw dod â phobl ynghyd ar gyfer cerddoriaeth fyw, bwyd a diod, amseroedd da a naws da! Y cyfan am bris call i bawb ei fwynhau.”

Ar Ddydd Gwener 12fed Awst bydd y lle ar agor o 12yp tan 11.30yh gyda bwyd a bar trwy’r dydd!  Bydd cerddoriaeth fyw yn dechrau o tua 6yh gyda thalent leol yn gwthio’r cwch i’r dŵr.  Bydd Fragment ymlaen o 8yh yn cynnwys cerddoriaeth Blŵs a Roc Gwledig! Bydd mynediad i oedolion yn £2 wrth y drws.

Wedyn ar Ddydd Sadwrn 13eg Awst bydd y lle ar agor o 12yp tan 11.30yh, gyda bwyd a bar eto!  Bydd cerddoriaeth fyw o 8yh gyda Waterloo Road yn diddanu’r dorf! Codir £2 ar oedolion wrth y drws.

Ar Ddydd Sul 14eg bydd “Chill Lounge” o 12yp tan 11yh, bwyd a bar trwy’r dydd gyda thiwns i’ch ymlacio.

Mae gan Minds Eye siop yn Stryd y Bont yn barod ac yn dilyn ambell noson Meic Agored yno penderfynwyd ehangu a phrydlesu’r Cware.

Rhyddheir amserlenni wythnosol eto.  Ond yn y cyfamser mae Tommy Davies yn chwilio am staff newydd ac yn apelio ar fandiau lleol i gysylltu os am berfformio yno.

”Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur iawn yn adeiladu sylfaen gref i ni.  Llawer o waith papur, galwadau ffôn, e-byst a threfnu! Nawr mae’n amser ar gyfer y gwaith corfforol, rydym wedi bod yn gweithio’n galed arno, yn rhoi gweddnewidiad i Minds Eye a’r Old Quarry.”

“Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb help ychydig o bobl arbennig, ymdrech tîm mawr.  Roedd gennym ni gymaint o waith mewn rhai wythnosau, byddai rhai yn dweud amhosibl ond dydyn ni byth yn defnyddio’r gair yna!”

Dymuna Tommy o Minds Eye ddiolch i bawb a gymerodd ran tu ôl i’r prosiect hwn! “Dyma gyfle anhygoel ar gyfer rhywbeth arbennig iawn!”