Clwb Hoci Llanybydder yn Cipio’r Cwpan!

Am Ymdrech! Am Achlysur! Buddugwyr Cwpan De Cymru.

gan Elin Calan Jones

Ddydd Sul roedd y tîm cyntaf yn brwydro am deitl buddugwyr Cwpan De Cymru. Ar ddiwrnod crasboeth, tyrru i lan y môr wnaeth chwaraewyr a thyrfa frwd o gefnogwyr Llanybydder. Ail dîm Caerfyrddin oedd ein gwrthwynebwyr gyda’r gêm yn cymryd lle ar dir niwtral yn Abertawe.

Roedd hon yn argoeli i fod yn dipyn o dasg, gan ystyried llwyddiant Caerfyrddin yn y gynghrair eleni, wrth iddynt sicrhau dyrchafiad i’r gynghrair uwch. Gêm gyfartal 0-0 oedd canlyniad y gêm ddiweddaraf rhwng y ddau dîm; roedd hon yn mynd i fod yn dipyn o frwydr!

Caerfyrddin fu’n pwyso yng nghwarter cyntaf y gêm, gyda Llanybydder yn dal i geisio ffeindio’u traed. Dyfarnwyd cornel gosb gynta’r gêm yn erbyn Llanybydder. Roedd yr holl dîm yn ymwybodol fod hon yn foment allweddol. Gyda threfn a phendantrwydd yr amddiffynwyr, enillwyd y bêl yn ôl, cyn dechrau ar wrthymosodiad. O un cylch i’r llall, mewn eiliadau, cyn i weledigaeth y blaenwyr sicrhau cornel gosb, i ni’n hunain y tro yma. Ni aeth y gornel gosb fel yr oeddem wedi dymuno, serch hynny, casglodd Lois Jones y bêl a thrwy ryfedd wyrth, fe groesodd y bêl y llinell. Gôl allan o friwsion! Yn erbyn llif y chwarae, roedd hi’n 1-0 i Lanybydder! Rhoddodd y gôl hwb enfawr i hyder y tîm.

Mewn fawr o dro, dyfarnwyd ail gornel gosb i Lanybydder. Fe weithiodd y cynllun y tro hwn gan ddod o hyd i Cerys Evans ar y postyn pella’, i mewn i’r gôl a hi! 2-0! Petai pethau ddim yn ddigon cyffrous yn barod, mewn cwta pum munud, cymrodd Gwenllian Jones gornel hir, cyn ei bwydo’n berffaith i lwybr Carwen Richards a groesodd y bêl tuag at Cerys Evans, unwaith eto ar y postyn pellaf. Gôl! 3-0. Roedd hi wedi bod yn ddeg munud anghredadwy! Yn fuan daeth yr egwyl, ac amser i drafod ein strategaeth ar gyfer yr ail hanner.

Roeddem yn ymwybodol y byddai Caerfyrddin yn dod allan ar dân wedi’r hanner yn y gobaith o gael gôl gynnar er mwyn cadw ei gobeithion ar gyfer buddugoliaeth yn fyw. Ond, ofer oedd e hymdrechion wrth i’r tîm cyfan gynorthwyo er mwyn eu cadw allan. Yn wir, dyna oedd hanes yr ail hanner yn gyfan gwbl. Er i Gaerfyrddin gael sawl cornel gosb, roedd amddiffyn Llanybydder yn ddigon cryf i’w hatal ar bob cynnig.

Coronwyd Llanybydder yn enillwyr Cwpan De Cymru mewn steil; Llanybydder 3-0 Caerfyrddin oedd y sgôr terfynol.

Diolchwn i Hoci Cymru am drefnu’r lleoliad a’r dyfarnwyr ar gyfer y rownd derfynol ac i’r chwaraewyr am bob tamaid o ymdrech a dyfalbarhad yn ystod y gystadleuaeth. Mae’n diolch pennaf yn mynd i’n cefnogwyr ffyddlon am deithio i’n cefnogi, braf iawn oedd eich cael chi yno.

Rwy’n credu ei bod hi’n saff i’w ddweud fod pob aelod o’r clwb yn dal i fod yn eu Seithfed Nef!

Edrychwn ymlaen at y tymor nesaf!

Elin Calan Jones, Capten

Carfan:

Gôl-geidwad: Kelly Davies Amddiffynwyr: Elin Calan Jones (C), Carys Wilkins, Lowri Davies, Sara Jarman Chwaraewyr Canol-cae: Carwen Richards, Gwenllian Jones, Elen Powell, Lois Jones, Manon Williams Blaenwyr: Rhian Thomas, Luned Jones, Cerys Evans, Naiomi Davies.