Clwb Rotary Llanbed yn cyflwyno rhoddion i achosion da

Diolch i drigolion ardal Llanbed am eu cefnogaeth hael.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
Rotary-Siop-Tenovus-llun-siec

Rhys Bebb Jones, Llywydd 2021-22 yn cyflwyno rhodd i Melinda Walton, Rheolwr Siop Tenovus a Mair Davies sy’n gwirfoddoli yno

Rotary-Siop-Gwarchod-Hinsawdd

Rhys Bebb Jones, Llywydd 2021-22 yn cyflwyno rhodd i Ru Hartwell, Rheolwr y Prosiect a Natasha Davies, Rheolwr y Siop Gwarchod Hinsawdd

Llwyddodd Clwb Rotary Llanbed i godi arian yn ddiweddar at achosion da. Ni fu modd gwneud hynny ers 2019 oherwydd pandemig y coronafeirws.

Diolch yn fawr i archfarchnad Sainsbury’s Llanbed am gael bod yn y siop gyda blychau casglu arian. Casglwyd dros £400 gan ddiolch am garedigrwydd trigolion Llanbed a’r cylch.

Dyma’r elusennau sydd wedi derbyn cefnogaeth o’r arian a gasglwyd:

  • Siop Tenovus, yr elusen ganser yn Llanbed.
  • Canolfan Teuluol Llanbed sy’n cefnogi teuluoedd yn ardal Llanbed.
  • Siop Gwarchod Hinsawdd Llanbed sy’n codi arian i gynorthwyo ffermwyr i blannu coed yn Cenia i warchod yr hinsawdd.
  • Ymddiriedolaeth Rotary sy’n cefnogi ymgyrch gwaredu’r afiechyd polio ar draws y byd.

Daeth blwyddyn Rhys Bebb Jones yn Llywydd Clwb Rotary Llanbed i ben diwedd Mehefin. Pob dymuniad da i Mared Rand Jones, Llywydd y Clwb ar gyfer 2022-23.

Os hoffech wybod mwy am Rotary mae croeso i chi gysylltu gyda’r Llywydd, Mared Rand Jones neu’r Ysgrifennydd, Rhys Bebb Jones. Byddant yn falch o egluro sut mae gwaith cymunedol ac elusennol Clwb Rotary Llanbed yn helpu’r rhai sy’n llai ffodus a sut y gallwch eu cynorthwyo a dod yn aelod.

Cynhelir y cyfarfodydd misol ar yr ail nos Lun o’r mis yn rhithiol ar hyn o bryd. Cewch mwy o fanylion am Rotary yn Llanbed a Chanolbarth a De Cymru yma – <https://www.rotary-ribi.org/districts/homepage.php?DistrictNo=1150>