Clybiau Cinio yng Nghwmann, Sesiynau Stori ym Maesycrugiau a holl weithgareddau’r Fenter Iaith

Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr:

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

*NEWYDD* Clybiau Cinio:

Yn dilyn llwyddiant mewn cais i gyllido prosiect mae’r Fenter yn trefnu cyfres o Glybiau Cinio yn Llanboidy a Cwmann. Mae’r clwb yn darparu pryd o fwyd 2 gwrs am ddim i bobl hŷn yr ardal. Mae’r clwb yn cwrdd yn Llanboidy ar: 8/11/22, 13/12/22 a 10/01/23 ac yng Nghmwnn ar: 9/11/22, 14/12/22 a 11/01/23. Mae’n angenrheidiol i chi gofrestru yn Llanboidy gyda Betsan: betsan@mgsg.cymru a Cwmann gyda Luned: luned@mgsg.cymru neu 01239 712934 i sicrhau eich lle.

Sesiynau stori:

Rydym yn ail-gychwyn sesiynau stori mewn pedair ardal sef Caerfyrddin ar ddydd Llun yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau am 10:30am. Yn Maesycrugiau/Llanllwni ar ddydd Mawrth yn Neuadd Cymunedol Eglwys Llanllwni am 10:30am. Yn San Clêr ar ddydd Mercher yn Y Gât am 10:30am ac yn Castell Newydd Emlyn ar ddydd Mercher yn Llyfrgell Castell Newydd Emlyn am10am. Ymunwch â ni mewn sesiwn stori ac ychydig o ganu pob pythefnos. Cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru.

Coffi a Chlonc:

Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ymholiad@mgsg.cymru.

Paned a Sgwrs:

Yn ddiweddar mae’r Fenter wedi dod yn rhan o sesiynau Paned a Sgwrs yng Nghaffi’r Atom, pob ddydd Mawrth o 10-11yb. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Croeso i siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl. I gofrestru, cysylltwch gyda alma@mgsg.cymru.

Clybiau Drama:

Mae’r Fenter a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal, Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm ac i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm. Mae’r clybiau yn cael eu cynnal yn y Stiwdio, Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Cyfle i blant dysgu sgiliau, magu hyder a mwynhau. I gofrestru, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru. Diolch i Theatrau Sir Gâr am y croeso cynnes i’r theatr yn wythnosol.

Clwb Garddio:

Mae’r Fenter yn cydweithio gyda Cered – Menter Iaith Ceredigion i drefnu Clwb Garddio yn Yr Ardd, Pont Tyweli. Pob ail ddydd Sadwrn y mis o 11yb-1yp. Cyfle i blannu a thyfu llysiau, ffrwythau a blodau. Croeso i bawb; oedolion a theuluoedd (angen oedolyn yn bresennol gyda phlant a phobl ifanc o dan 18 oed). I gofrestru: llinos.hallgarth@ceredigion.gov.uk neu ymholiad@mgsg.cymru

Paned a phapur:

Mae’r Fenter yn ail gychwyn ar sesiynau Paned a Phapur yn Amgueddfa Wlân, Drefach Felindre, pob pythefnos yn cychwyn ar yr 28ain o Fedi am 12pm. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Croeso i siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl. I gofrestru, cysylltwch gyda luned@mgsg.cymru.

Clybiau Darllen:

Yn dychwelyd mae clybiau darllen y Fenter sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd bob ail nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar y trydydd nos Fawrth y mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda nia@mgsg.cymru | betsan@mgsg.cymru

*NEWYDD* Taith ysgolion – Shwmae Sumae:

I ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae eleni, mae’r Fenter yn mynd ar daith ysgolion yn ardal Caerfyrddin a Dyffryn Taf, edrychwn ymlaen at ddychwelyd i’r ysgolion wedi’r haf.

*NEWYDD* Parti Calan Gaeaf:

Mae’r Atom a’r Fenter yn cynnal Parti Calan Gaeaf yn Yr Atom ar y 31ain o Hydref rhwng 10am-12pm. Bydd y bore yn cynnwys sesiynau chwarae anniben, gemau, crefftau, amser stori a chystadleuaeth gwisg ffansi. £1 y plentyn dros 12 mis. Cysylltwch â helo@yratom.cymru  neu alma@mgsg.cymru i gofrestru.

*NEWYDD* Un Noson Ola Leuad:

Mae Un Noson Ola Leuad gan Theatr Bara Caws yn dod i Gaerfyrddin ar yr 2il o Dachwedd yn Neuadd San Pedr am 7:30pm. Tocynnau am £8/£10 wrth alma@mgsg.cymru (tocynnau yn mynd yn gyflym felly archebwch yn syth).

Cynnau goleuadau Nadolig:

Rydym yn edrych ymlaen at ddathliadau Cynnau Goleuadau Nadolig Caerfyrddin gyda Chyngor Tref Caerfyrddin, nodwch y dyddiad yn eich dyddiaduron sef 19eg o Dachwedd rhwng 10am-5pm. Mwy o wybodaeth i ddilyn.

*NEWYDD* Noson Siopa Nadoligaidd:

Ar nos Wener y 25ain o Dachwedd, bydd yr Atom ar Fenter yn cynnal noson siopa Nadoligaidd yn Yr Atom rhwng 5pm a 8pm. Os oes diddordeb gyda chi mynychu gyda stondin, cysylltwch gyda heledd@mgsg.cymru neu helo@yratom.cymru. Bydd mwy o fanylion yn y rhifyn nesaf.

*NEWYDD* Noson Nadoligaidd:

Mae’r Fenter ac Yr Atom yn cynnal noson Nadoligaidd sy’n cynnwys gweithdy torch gyda Wendy Blodau Blodwen, mins peis a digon o win cynnes ar y 30ain o Dachwedd am 7pm am £50 yn Yr Atom, Caerfyrddin. Rhaid cofrestru erbyn 23ain o Dachwedd gydag alma@mgsg.cymru.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ymholiad@mgsg.cymru  neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch â ni ar y ffôn: 01239 712934.