Gêm y Cnapan: Prosiect Cynefin Dyffryn Cledlyn

Prosiect Cynefin y Cardi – Ysgol Dyffryn Cledlyn

gan Hywel Roderick

Mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Dyffryn Cledlyn wedi bod yn cydweithio gyda chwmni CISP Multimedia i greu hysbysfwrdd sy’n cyfleu hanesyn diddorol o’r ardal.

Dewisodd y plant bortreadu hanes Gêm hynafol  ‘Y  Cnapan’  a oedd yn cael ei chwarae yn yr ardal nôl mor bell â’r 9fed ganrif.

Maent wedi creu fideo byr i esbonio’r hanes, a sut aethant ati i greu’r gwaith.

Gwnaethant fwynhau y prosiect yn fawr iawn.