Codi arian i Blant Mewn Angen

Am y tro cyntaf, ymunodd Ysgol Bro Pedr â thîm Pêl-rwyd Llewod Llanbed i chwarae dwy gêm o bêl-rwyd

gan Ifan Meredith

“Digwydd bod eleni roedd diwrnod Plant mewn Angen yn cwympo ar ddiwrnod HMS, ond nid oeddwn eisiau i’r achlysur arbennig yma basio heb wneud ymdrech i godi ymwybyddiaeth a chodi arian tuag at yr achos.”

Oherwydd diwrnod HMS ar ddydd Pudsey, ni oedd yr Ysgol Bro Pedr yn cynnal taith gerdded i godi arian i Blant Mewn Angen eleni ond bu staff yr ysgol yn brwydro’n galed yn erbyn disgyblion yn nhîm ifancach Llewod Llanbed a disgyblion, cyn-ddisgyblion a rhieni yn nhîm hynaf Llewod Llanbed.

“gwnaethom fwynhau cymaint mae sôn yn barod am drefnu achlysur tebyg yn flynyddol!” -YBP

Er mai gemau cyfeillgar oeddent, does byth gêm gyfeillgar rhwng athrawon a disgyblion wrth i’r tîm ifancaf golli o 6-8 mewn gêm agos iawn a’r tîm hŷn yn ennill o 23-12.

“Diolch i staff YBP a fu’n chwarae â sgil, ysbryd a gwên.” – Llewod Llanbed

Mae hyn yn dilyn cryn lwyddiant i dîm Llewod Llanbed yn ddiweddar wrth iddynt ennill o 55-3 yn erbyn Prifysgol Aberystwyth ddoe.

“roedd yn gyfle gwych i ni fel ysgol i ymgysylltu â’r gymuned leol.” -YBP

Chwaraewyr gorau’r twrnament i Llewod Llanbed oedd Elan Evans a chwaraewyr gorau YBP oedd Hannah Parr, Natalie Jones a Carys Jones. Roedd clod arbennig i’r bobl â’r gwisgodd gorau ar bob tîm hefyd. I Llewod Llanbed, Lynwen Jenkins oedd wedi gwisgo orau ac roedd ’masgots’ tîm YBP, Olaf ac Elsa (Deiniol Williams a Bethan Payne) yn llwyr haeddiannol o’r clod yma.

“noson lwyddiannus a hwyl i bawb” -Llewod Llanbed

Fel rhan o’r 30 chwaraewr o dîm Llewod Llanbed, croesawodd tîm Llewod Llanbed 4 chwaraewr newydd.

Aeth Lowri Gregson, capten tîm staff Bro Pedr ymlaen i esbonio sut daeth y syniad:

“Fe ddaeth y syniad wrth gefnogi tîm merched blwyddyn 10 ychydig wythnosau’n ôl yn un o’r gemau pêl rwyd wythnosol. Cyn diwedd y gêm roedd gan Alex (hyfforddwraig y Llewod) a minnau gynllun i drefnu gêm ac er bod y mwyafrif o’r staff heb chwarae ers dyddiau ysgol ni chefais broblem recriwtio 2 dîm ynghyd, gyda’r staff yn llawn brwdfrydedd i gymryd rhan.”