gan
Enfys Hatcher Davies
Mae Ysgol Sul Brynhafod, Gorsgoch wedi bod yn brysur yn peintio arwydd i groesawu’r ymwelwyr i Geredigion ym mis Awst. Er taw yn Nhregaron mae’r Eisteddfod Genedlaethol, mae’n siŵr y bydd yr ymwelwyr yn teithio ar hyd a lled y Sir, a bydd arwydd lliwgar yr Ysgol Sul yn siŵr o godi calonnau.
Mae’r penwythnos yma’n benwythnos harddu a gwisgo’r Sir a bydd yr arwydd yn ymddangos yn y pentref yn ystod y penwythnos rywbryd. Cadwch eich llygaid yn agored wrth basio’r gors!
Daeth y criw bach ynghyd i sied Llain, Gorsgoch fore Sul i beintio’r arwydd. Mae’r lliwiau a’r lluniau’n hyfryd a’r dyfyniad o gywydd croeso’r Eisteddfod yn 2020 yn addas iawn i’r pentref.
“…a daw o’r gors nodau’r gân
i’n gafael drwy’r Sir gyfan.”
Welwn ni chi ’na!