Cyffro’r Nadolig o Noson Siopa Hwyr Llanbed

Naws y Nadolig o strydoedd Llanbed!

gan Ifan Meredith

Llwyth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i deimlo ysbryd y Nadolig.

01:59

Am noson hyfryd yn Llanbed.  Awyrgylch Nadoligaidd hudol gyda’r siopau lleol yn agor eu drysau am noson siopa hwyr.

Y strydoedd yn fwrlwm o bobl gan gynnwys teuluoedd a phlant yn galw i weld Sion Corn yn Lois Designs.  Yr actores Gillian Elisa yn cynnau goleuadau’r Goeden Nadolig ar Sgwâr Harford ac Ifan Evans yn darlledu’n fyw ar BBC Radio Cymru.

Y tywydd yn sych ac yn oer.  Noson ddelfrydol i gerdded o gwmpas a chloncan gyda hwn a’r llall.  Stondinau amrywiol yn gwerthu coed Nadolig ac anrhegion gwahanol yn llanw’r Stryd Fawr, reidiau bach y ffair i’r plant, lori ddeniadol Castell Hywel a’r frigad Dân yn atyniadau ychwanegol.

Stondinau a chaffis yn gweini bwydydd blasus a gwin poeth a’r cyn ddyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens yn arwyddo ei lyfr yn y Pantri.  Heb son am yr adloniant byw o garolau traddodiadol gan Gôr Meibion Cwmann a’r cylch i ganeuon Nadolig bywiog Clwb Iwcalili Llanbed.  Ac i goroni’r cyfan y chwedlonol Ivor Williams yn ei rol fel Cyhoeddwr y Dref yn cadw trefn.

Os na fuoch chi yno, fe golloch chi mas.  Ond diolch i bawb a gydweithiodd er mwyn dangos tref Llanbed ar ei gorau ar dechrau mis Rhagfyr yn hwyl yr Ŵyl go iawn.

20:13

Clwb Iwcalili Llanbed yn perfformio detholiad o caneuon Nadolig ar y Stryd Fawr.

20:09

Côr meibion Cwmann a’r cylch yn diddanu’r dorf.

20:04

Gwynfor gydag Ivor Williams Cyhoeddwr y Dref.

20:03

19:57

16:47

Gilian Elisa (a Cariad) yn troi golau’r goeden Nadolig ymlaen!

16:40

Cyhoeddi mai John Francis sydd yn fuddugol yng nghystadleuaeth addurno ffenest siop.

16:35

Agor noson siopa hwyr Llanbed yn swyddogol.