Cyhoeddi Cludwyr Baton y Frenhines drwy Geredigion.

Sawl un o ardal Clonc360 yn cario Baton y Frenhines yng Ngheredigion ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.

gan Ifan Meredith
Screenshot-2022-06-27-at-08.57.39-2Gemau'r Gymanwlad

Wrth i gemau’r Gymanwlad agosáu, cyhoeddwyd y rhai bydd yn cario Baton y Frenhines ddiwedd y mis drwy Ceredigion. Yn eu plith mae sawl un o ardal Clonc360.

Mae Casi Gregson yn ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr, Llanbed ac yn lysgennad gwych i Bêl-droed merched yn yr ardal. Roedd Casi yn rhan o dîm merched Cymru o dan 16 ac enillodd 2-1 yn erbyn Lloegr wrth sgorio gôl dros ei gwlad ar ôl iddi wneud cyfweliad ecsglwsif gyda Clonc360 ym mis Mawrth.

‘Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr i’r diwrnod. Mae cael anrhydedd fel hyn yn cadarnhau bod yr holl waith caled yn werth chweil ac yn agor drysau i brofiadau bythgofiadwy ac yn cadarnhau bod unrhyw beth yn bosib gydag ymroddiad. Mi fydd yn fraint enfawr i gynrychioli Ceredigion gan obeithio byddaf yn ysbrydoli ieuenctid eraill, yn enwedig merched Ceredigion i anelu’n uwch’

Mae Anwen Butten yn enw cyfarwydd yn nhîm bowlio Cymru wrth iddi gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad pum tro o’r blaen ac wedi ennill dros 16 medal dros 20 mlynedd o gystadlu ac wedi ennill sawl teitl Cymreig a Phrydeinig.

‘Braint i gario’r baton ar ei thaith drwy Gymru’r wythnos hon. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gystadlu mewn 5 gemau o’r blaen ond mae bod yn rhan o’r cyffro yma wrth i gemau Birmingham agosáu yn deimlad sbesial iawn’

Mae Hari Butten yn chwaraewr bowlio lawnt o dan 25 ac wedi ennill cystadlaethau agored ledled Cymru.

“Wedi teithio ar draws y byd yn gwylio Mam yn cystadlu yn y Gemau Gymanwlad, rwyf wedi gweld baton y Frenhines yn cyrraedd sawl seremoni agoriadol. Fe fydd yn fraint i gael cario’r baton trwy Geredigion ar ei daith ar draws gwledydd y Gymanwlad cyn cyrraedd Birmingham ac i fod yn rhan o’r bwrlwm.”

Chwaraewraig bowlio lawnt arall yw Alis Butten. Yn ystod ei gyrfa bowlio mae hi wedi cael ei hystyried fel y bowlwraig ifancaf i chwarae mewn tîm cenedlaethol uwch (senior). Mae hefyd wedi ei dewis i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Ayr yng Ngorffennaf.

‘Braint ac anrhydedd ac mi fydd yn ddiwrnod arbennig iawn’

Mae Melanie Thomas yn fowlwraig o Lanbed sydd wedi cystadlu mewn nifer o gystadlaethau mewn gwahanol gampau dros y blynyddoedd ac wrth droi i fowlio, mae Melanie wedi cynrychioli Cymru mewn nifer o gystadlaethau amrywiol fel Pencampwriaeth Iau’r Byd a Phencampwriaeth Aur yr Atlantic. Mae hefyd wrth gefn i dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ym Mirmingham eleni.

‘Mae’n anrhydedd cael cynrychioli bowlio a Cheredigion yn cario baton y Frenhines’

Mi fydd y baton yn gwneud ei ffordd drwy Geredigion ar ddydd Iau, y 30ain o Fehefin wrth ddechrau yng Nghlwb Bowlio Plascrug, Aberystwyth rhwng 14:15 a 14:30. Yma, mi fydd yn gwneud ei ffordd i orsaf rheilffordd Cwm Rheidol rhwng 14:45 a 15:30. Mi fydd yna yn teithio i Wersyll yr Urdd, Llangrannog ac yn teithio i draeth Llangrannog.

Argymhellir i bobl wylio’r cyfan ar hyd Plascrug a Rheilffordd Cwm Rheidol. Mae’r baton hefyd yn teithio ar hyd palmentydd Ffordd Alexandra a Choedlan y Parc.