Cymorth meddygol Bethel wedi cyrraedd Wcráin

Gwerth bron i £2,000 o gymorth wedi mynd yn uniongyrchol i gynorthwyo’r rhai mewn angen yn Wcráin.

Bethel Parc-y-rhos
gan Bethel Parc-y-rhos

Wedi’r daith gerdded a gynhaliwyd ar yr 20fed Mawrth gan aelodau a chyfeillion Bethel Parc-y-rhos, penderfynwyd cefnogi ymdrechion Nataliya Roach i ddanfon cymorth meddygol yn syth i Wcráin.  Teimlwyd bod angen danfon cymorth ar unwaith i’r rhai mewn angen yn Wcráin oherwydd effaith y gwrthdaro erchyll yno.

Mae Nataliya Roach yn byw yng Nghwmann ond yn dod yn wreiddiol o Wcráin.  Bu’n ddiwyd iawn dros yr wythnosau diwethaf yn mynychu digwyddiadau codi arian, prynu nwyddau meddygol a chydgysylltu â chyfeillion o Gymru ac Wcráin er mwyn trefnu danfon cymorth dyngarol yno.

Codwyd dros £1,900 oherwydd y daith gerdded a phrynwyd nwyddau meddygol angenrheidiol gan yr arian hynny.  Cefnogwyd ymdrechion Nataliya gan Gapeli, Eglwysi a sefydliadau eraill hefyd.

Elma Phillips, Trysorydd Bethel a fu’n cydweithio â Nataliya ar ran Bethel a daeth rhai o swyddogion Bethel at ei gilydd un noson i roi siceri ar y bocsys gyda neges oddi wrth bobl Bethel arnynt.

Ar y 30ain Mawrth aeth Gwynfor Lewis, un o’r diaconiaid â llwyth o’r offer meddygol i Gastell Nedd ac oddi yno cludwyd yr offer ynghyd â nwyddau eraill mewn fan fawr yn uniongyrchol i Wcráin.

Dywedodd Svetlana Lilley, un o’r trefnwyr “Diolch i bawb yng Nghymru a gasglodd y gefnogaeth feddygol a rhoi’r arian i Wcráin. Bydd yn diogelu llawer o fywydau.  Mae rhai o’r pethau rydyn ni wedi’u hanfon yn becynnau cymorth cyntaf.  Bydd rhai pethau’n mynd i’r ysbyty i’r rhai sydd wedi’u hanafu.  Bydd rhai pethau’n mynd i ffoaduriaid sy’n dal yn agos at y parth rhyfel.”

Yn ychwanegol, derbyniwyd neges o Wcráin ddoe gan Ogla Kolonijchuk “Mae pobl Khmelnytskyi, yn Wcráin a’n rhyfelwyr gogoneddus, yn mynegi diolch enfawr a gwerthfawrogiad i bobl Cymru.  Diolch i’r holl sefydliadau a gymerodd ran yn y cymorth hwn, yr eglwysi a holl bobl Cymru.  Diolch am y llythyrau cynnes gyda geiriau o gefnogaeth.”

2 sylw

Alun Jones
Alun Jones

Mor falch bod ein ymdrechion wedi dwyn ffrwyth, a bod y nwyddau o fudd i drigolion Wcrain. Cariad ar waith. Teulu Glanrhyd, Parc-y-rhos.

Eric ac Avril
Eric ac Avril

Yn dda clywed fod y parseli wedi cyrraedd Wcrain.Diolch i bawb.

Mae’r sylwadau wedi cau.