Cynefin y Cardi

Cyfraniad Blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Aberaeron at gomig Cynefin y Cardi

gan Carwen Richards

Dewisodd ein criw bach o ddisgyblion creadigol Blwyddyn 7 i ymchwilio a pharatoi chwe cherdyn ar y chwech arwr lleol canlynol: Catrin Finch, Ron Davies, Sioned Harries, Caryl Lewis, Yvonne Evans a Seirian Summer.

Derbyniwyd hyfforddiant priodol gan Cisp Multimedia a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cymorth. Wedi’r hyfforddiant, bu Mrs Gwenllian Jones yn ysbrydoli’r disgyblion ymhellach yn ystod amseroedd egwyl a chinio a phenderfynwyd ar gynllun ar y cyd. Yna, aeth y disgyblion ati i greu eu campweithiau! Dyma rhai lluniau i roi blas o’r broses i chi.